Bydd y grŵp cyffrous o Gaerdydd, Estrons, yn rhyddhau eu sengl cyntaf, ‘C-C-CARIAD!’ ar ddydd Llun 3 Tachwedd.
Hon fydd y sengl gyntaf i’w rhyddhau fel rhan o gynllun newydd Clwb Senglau’r Selar, ble bydd cylchgrawn cerddoriaeth Y Selar yn cydweithio â label Rasal i ryddhau sengl gyntaf artist addawol bob mis.
Bydd y sengl yn cael ei lansio’n swyddogol fel rhan o gig dathlu deng mlynedd o gyhoeddi Y Selar yn Aberystwyth ar nos Wener 31 Hydref.
Mae thema y gân yn eironig iawn o ystyried datblygiadau diweddar ym mywyd prif ganwr y grŵp, Tali Kallstrom,sydd wedi rhoi genedigaeth i’w phlentyn cyntaf ychydig wythnosau yn ôl.
“’Wnaethom ni recordio jyst cyn i Tali gwympo’n feichiog” meddai gitarydd Estrons, Rhodri Daniel mewn cyfweliad yn rhifyn diweddaraf Y Selar sydd allan ar 31 Hydref.
“Roeddem ni wedi clywed gormod o ganeuon am gariad felly benderfynon ni sgwennu cân am ysgariad! ’Chydig bach o jôc ond ma’ hi’n eitha’ ffyrnig ac yn gân dda i orffen set.”
“Ma’r gân am fam yn dweud wrth y tad, cer di a’r plant, af i’r gath a’r ci … ac yna ychydig wythnosau wedyn mae Tali’n disgwyl babi! Ma’n eitha’ doniol.”
Er bod yr aelodau’n brofiadol – roedd Rhodri yn aelod o’r grŵp o Lanbedr Pont Steffan, Java a Tali yn aelod o’r Threatmantics – hon fydd sengl gyntaf prosiect Estrons, a dyna holl fwriad y Clwb Senglau newydd.
“Mae’r Selar bob amser wedi rhoi llwyfan i artistiaid newydd rhwng cloriau’r cylchgrawn gydag erthyglau fel ‘Dau i’w Dilyn’ a ‘Ti di Clywed’” meddai Uwch Olygydd y cylchgrawn, Owain Schiavone.
“Wrth i ni ddathlu deng mlynedd o gyhoeddi’r cylchgrawn, fe benderfynwyd i geisio mynd â hynny un cam ymhellach gyda’r Clwb Senglau. Y bwriad ydy rhyddhau deunydd cyntaf rhai o’r grwpiau mwyaf cyffrous rydan ni’n dod ar eu traws gan obeithio dod â nhw i sylw labeli fydd yn gallu mynd â nhw i’r cam nesaf o ryddhau EP neu albwm.”
Mae’r sengl yn cael ei rhyddhau ar iTunes ac ar siopau cerddoriaeth digidol eraill ddydd Llun 3 Tachwedd wedi’r lansiad swyddogol yn gig ‘Selar 10’ yn Neuadd Fawr Aberystwyth ar nos Wener 31 Hydref. Bydd Sŵnami, Yr Eira, Ysgol Sul a Sgilti hefyd yn perfformio yn y digwyddiad.
Bydd Estrons hefyd yn perfformio mewn gig Selar 10 yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd yr wythnos ganlynol ar nos Sadwrn 8 Tachwedd.