Mae label Sbrigyn-Ymborth wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau sengl newydd Y Bandan ddiwedd mis Tachwedd.
Bydd y sengl dau drac allan ar 29 Tachwedd, ac ar gael i’w lawr lwytho’n unig.
Enwau’r ddau drac newydd ydy ‘Mari Sal’ a ‘Tafodau y Tonnau’, ac mae’r grŵp wedi bod yn ddigon clên i roi rhagflas o’r traciau ar eu tudalen Soundcloud (gwrandewch isod).
Dyma ydy’r cynnyrch cyntaf i’w ryddhau gan y grŵp sydd gyda’r mwyaf poblogaidd yng Nghymru ers eu halbwm Bywyd Gwyn, a ryddhawyd ar label Copa yng Ngorffennaf 2013.