Ar ôl rhyddhau eu halbwm cyntaf, Byr Dymor, fis Rhagfyr, mae’r Bromas yn ôl gyda sengl newydd fydd allan yfory (1 Mai 2014).
Mae ‘Merched Mumbai’ yn ragflas o albwm newydd enillwyr teitl ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar 2012.
Roedd Byr Dymor yn rhif 4 yn rhestr ’10 Uchaf Albwms Gorau 2013′ Y Selar, a gyhoeddwyd yn y rhifyn diwethaf. Mae’n amlwg felly bod y grŵp ifanc yn plesio’r gynulleidfa, a does dim gorffwyr ar eu rhwyfau i fod gyda’r albwm nesaf, Codi’r Fore, i’w ryddhau ar label Rasp ym mis Awst.
Merched Mumbai ydy’r sengl gyntaf o’r albwm newydd, ac mae’n gân am “ddyheu, am gariad ac am bopeth arall cyn belled ei bod yn achos i ddawnsio” yn ôl y grŵp.
“Ni ’di cymryd ein hunain yn gymharol o ddifrif yn y gorffennol drwy ysgrifennu caneuon trwm a dwys, ond erbyn hyn ni ’di penderfynu rhoi’r gorau i hynny er mwyn creu cerddoriaeth sy’n eich cywilyddio os nad y’ch chi’n codi o’ch eistedd a dechrau dawnsio.”
Swnio fel polisi da i ni bois!
I ddathlu’r sengl newydd mae Bromas yn chwarae yng Nghlwb Ifor Bach nos fory (1 Mai) gyda dau fand arall ifanc o’r Gorllewin gwyllt, Y Ffug a Castro.
Bydd modd lawrlwytho’r sengl oddi ar wefannau iTunes, Amazon a Google Play