Sengl Gwyllt allan ddiwedd y mis

Bydd Gwyllt yn rhyddhau eu hail sengl o’r flwyddyn ar ddydd Llun 26 Mai.

Mae Dorothea yn cael ei rhyddhau gan Recordiau Mwg ac yn dilyn y sengl Effaith Trowsus Lledar a ryddhawyd ym mis Ebrill.

Gwyllt ydy prosiect Amlyn Parry, ac fe wnaethon nhw ryddhau EP sy’n rhannu enw’r grŵp ym mis Mehefin llynedd, yn ogystal â chael eu cyfweld ar gyfer rhifyn mis Awst o’r Selar.

Yn ôl y label mae’r sengl yn adlewyrchu’r gerddoriaeth acwstig acwstig gyda llinynnau hyfryd oedd yn nodweddiadol o record gyntaf Gwyllt.

“Cân am Chwarel Dorothea yn Nyffryn Nantlle yw hon” meddai Amlyn.

“Chwarel sydd ddim yn bell iawn o lle ’magwyd i, ac fe fyddai yn mynd yna o dro i dro i edrych o gwmpas. Mae’n le hynod o ddiddorol. Pan ti’n mynd yno mae hoel hen ddiwydiant trwm y llechi yn amlwg. Mae digon o adfeilion a hen weithdai i’w darganfod yn ogystal â’r twll mawr lle bu’r gweithwyr yn chwarela am y lechan las. Ysbrydolodd yr ymweliadau yma i mi edrych i mewn i hanes y chwarel a’r amgylchiadau yr oedd y chwarelwyr yn byw ynddynt.”

Mae’r sengl yn cael ei rhyddhau’n ddigidol a bydd ar gael o wefan Gwyllt, iTunes, Amazon a’r llefydd eraill arferol.