Mae sengl ddiweddaraf Clwb Senglau’r Selar – ‘Tyrd yn Ôl’ gan Y Trŵbz – allan i’w lawr lwytho rŵan.
Sengl y grŵp cyffrous o Uwch Aled ydy ail sengl ein clwb arbennig fydd yn rhyddhau sengl gyntaf artist bob mis.
Fe ddaeth Y Trŵbz i amlygrwydd gyntaf wrth gipio teitl Brwydr y Bandiau C2 ym mis Mai eleni, ac mae rhyddhau eu sengl cyntaf yn coroni blwyddyn gofiadwy i’r grŵp ifanc.
Gallwch ddarllen mwy am y sengl yn y stori fach yma ar Golwg360.
Ac yn bwysicach oll, dyma ddolen i’r lle y gallwch lawr lwytho’r sengl ar iTunes.