Slot Selar @ Steddfod yr Urdd Meirionnydd

Bydd gwledd gerddorol i’r clustiau i’r rhai ohonoch chi sy’n mentro am faes Eisteddfod yr Urdd yn y Bala ddiwedd y mis … a does dim rhaid i chi fynd yn agos at y pafiliwn i’w glywed.

Am y bedwaredd flwyddyn mae Y Selar yn falch iawn i gydweithio â’r Urdd i lwyfannu rhai o artistiaid cyfoes mwyaf cyffrous y sin ar lwyfan perfformio’r Eisteddfod.

Bydd Slot Selar yn digwydd rhwng 1 a 2 bob dydd ac rydan ni wedi penderfynu dewis rhai o’r artistiaid rydan ni’n disgwyl i greu enw go iawn i’w hunain dros y flwyddyn nesaf i berfformio.

Dyma’r lein-yp yn llawn i chi felly:

Llun (26 Mai) – Fleur de Lys

Mawrth (27 Mai) – Y Cledrau

Mercher (28 Mai) – Y Ffug

Iau (29 Mai) – Y Rhacs

Gwener (30 Mai) – Kizzy Crawford

Sadwrn (31 Mai) – Y Reu