Mae Y Bandana ac Y Ffug wedi cyhoeddi manylion taith haf ar y cyd fydd yn dechrau nos Sadwrn yma ym Mhontargothi.
Bydd y daith yn parhau am wythnos cyn gorffen ym Mhontardawe wythnos i nos Sadwrn.
Mae’r daith yn gyfuniad difyr o ddau o grwpiau gorau’r sin – Y Bandana, y grŵp o Wynedd sydd wedi sefydlu eu hunain fel un o grwpiau mwyaf poblogaidd Cymru dros y dair blynedd diwethaf, ac Y Ffug o Sir Benfro sydd wedi ffrwydro ar y sin ers ennill Brwydr y Bandiau C2 yn 2013.
Dyma rhestr lawn gigs y daith:
5 Gorffennaf – Cae Sioe Pontargothi (19:00)
6 Gorffennaf – Penlan Fawr, Pwllheli (16:00)
7 Gorffennaf – Hen Cob, Bangor gyda Fleur de Lys (20:00)
8 Gorffennaf – Lleoliad i’w gadarnhau
10 Gorffennaf – Clwb Rygbi Crymych (19:30)
11 Gorffennaf – Ysgol Cwmbran (Y Bandana yn unig) (14:00)
12 Gorffennaf – Tafwyl, Caerdydd (Y Bandana yn unig) (16:00)
12 Gorffennaf – Gŵyl y Gwachel, Pontardawe