Timau Cwpan Jarman 2014 – lle i un tîm

Rydan ni’n falch iawn o gyhoeddi rhestr y timau fydd yn cystadlu yng nghystadleuaeth bêl-droed fawr y sin gerddoriaeth Gymraeg, Cwpan Jarman.

Felly, dyma nhw’r timau fydd yn brwydro am y gwpan eleni:

C2

West Bromas Albion

Chwacs

Y Breichiau Da ‘na

Nyth Lliwgar

Sŵnami / Yr Eira

Jessop a’r Candelas

Y Selar

Barbariaid Gwydir

Yn anffodus, mae CSKA Castro wedi gorfod tynnu nôl ar y funud olaf, sy’n golygu fod lle i un tîm arall! Cysylltwch â ni os oes diddordeb – yselar@live.co.uk / @Y_Selar

Bydd y brwydro’n digwydd ar faes ‘astro turf’ Prifysgol Aberystwyth, nid nepell o leoliad Gwobrau’r Selar yng Nghanolfan y Celfyddydau, rhwng 11:30 a 1:30 ddydd Sadwrn 15 Chwefror. Dewch draw i gefnogi!

Bydd trefn gemau’r gystadleuaeth yn cael ei gyhoeddi dros y dyddiau nesaf…