Mae albwm gyntaf yr artist amryddawn o’r Felinheli, Tom ap Dan, allan heddiw.
Label Dan Amor, Recordiau Cae Gwyn, sy’n gyfrifol am ryddhau’r albwm sy’n dwyn yr enw Titw Tomos Afiach.
Y sôn ydy bod y caneuon wedi eu recordio yn selar (nid y cylchgrawn) taid Tom ym Mhwllheli. mr huw syddd wedi cynhyrchu’r casgliad.
Mae modd i chi brynu copi CD o Titw Tomos Afiach ar wefan Cae Gwyn, neu ei lawr lwytho’n ddigidol. Mae hefyd modd prynu’n ddigidol ar iTunes a bydd ar gael o siopau recordiau lleol.
Bydd adolygiad o’r albwm yn rhifyn nesaf Y Selar (y cylchgrawn, nid un taid Tom ap Dan)