Mae’r Selar yn falch iawn i gyhoeddi mai Y Trŵbz fydd aelod nesaf Clwb Senglau’r Selar.
Bydd y grŵp ifanc o Uwch Aled yn rhyddhau’r sengl ‘Tyrd yn Ôl’ i’w lawr lwytho’n ddigidol ar ddydd Llun 8 Rhagfyr.
Daeth Y Trŵbz i amlygrwydd yn gynharach eleni wrth gipio teitl enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 Radio Cymru.
Bryd hynny fe wnaeth sŵn roc anthemig ‘Estyn am y Gwn’ a llais pwerus y prif ganwr, Mared greu argraff ar y beirniaid a’r gynulleidfa. Mae sŵn ‘Tyrd yn Ôl’ ychydig yn ysgafnach, yn fwy ffynci, ac efallai’n fwy bachog gan olygu ei bod yn siŵr o fod yn boblogaidd ar y tonfeddi ac mewn gigs byw.
Sengl Y Trŵbz fydd yr ail o Glwb Senglau’r Selar a sefydlwyd fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y cylchgrawn yn 10 oed ym mis Tachwedd eleni.
‘C-C-CARIAD!’ gan Estrons oedd y gyntaf o’r Clwb Senglau, sydd wedi cael ymateb gwych dros y mis diwethaf, a sydd ar gael i’w lawr lwytho o iTunes, Spotify ac Amazon ar hyn o bryd.