Bydd y rhai craff ohonoch chi wedi sylwi bod Y Selar yn dathlu pen-blwydd go arbennig eleni. I’r gweddill ohonoch chi, mae mis Tachwedd yn nodi 10 mlynedd ers cyhoeddi rhifyn cyntaf un Y Selar…sy’n golygu bod ni’n ddeg oed!
I nodi’r achlysur rydan ni am wneud nifer o bethau cyffrous iawn, gan gynnwys:
-
Cynnal cyfres o gigs ‘Selar 10’ yn ymweld ag Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd
-
Cyhoeddi rhifyn estynedig arbennig, 32 tudalen
-
Cyhoeddi holl ôl-rifynnau’r cylchgrawn yn ddigidol
-
Lansio clwb senglau ar gyfer rhyddhau cynnyrch cyntaf artistiaid newydd
Parti ar daith
Mae taith fer ‘Selar 10’ yn dechrau gyda pharti pen-blwydd arbennig yn Neuadd Fawr Aberystwyth ar nos Wener 31 Hydref.
Bydd rhai o grwpiau mwyaf cyffrous y sin yn perfformio yn y parti Calan Gaeaf – Sŵnami, Yr Eira, Estrons ac Ysgol Sul – wrth i’r Selar ddychwelyd i’r lleoliad oedd yn llawn dop ar gyfer Gwobrau’r cylchgrawn fis Chwefror eleni.
Bydd y daith yn ymweld â Bangor yr wythnos ganlynol, 7 Tachwedd, cyn symud i Glwb Ifor Bach, Caerdydd ar 8 Tachwedd.
Clwb Senglau
Mae Clwb Senglau’r Selar yn gynllun mewn partneriaeth â label Rasal, fydd yn cynnig cyfle cyntaf i recordio a rhyddhau deunydd gan artistiaid newydd.
Estrons, grŵp cyffrous o Gaerdydd, yw’r cyntaf i fanteisio ar y cynllun newydd – bydd y sengl ‘C-c-cariad’ allan i’w lawr-lwytho’n ddigidol ar 1 Tachwedd.
Ail gyhoeddi ôl-rifynnau
Mae holl rifynnau’r cylchgrawn ers Awst 2008 wedi bod yn cael eu cyhoeddi ar-lein yn ogystal ag mewn print, ond o fis Tachwedd ymlaen bydd modd darllen y 13 rhifyn a gyhoeddwyd cyn hynny’n ddigidol hefyd.
Rhifyn ‘bympyr’
Bydd rhifyn mis Tachwedd o’r Selar yn rifyn estynedig, 32 tudalen, gydag wyth tudalen ychwanegol yn edrych nôl ar gynnwys Y Selar dros y blynyddoedd.
Bydd mwy o fanylion am y dathliadau’n dilyn dros yr wythnosau nesaf, felly cadwch olwg ar ffrwd Twitter @Y_Selar a fan hyn ar y wefan wrth gwrs.