Agor Pleidlais Gwobrau’r Selar…a thocynnau ar werth!

Rydym yn falch iawn i gyhoeddi bod pleidlais Gwobrau’r Selar eleni bellach ar agor.

Mae’r modd i chi fwrw pleidlais dros eich hoff fandiau, artistiaid, cynnyrch a llwyth o bethau SRG-aidd eraill trwy ddilyn y linc yma. Mae angen i chi ddefnyddio eich cyfrif Facebook i bleidleisio, a dim ond unwaith y bydd modd i chi fwrw pleidlais felly dewiswch yn ofalus.

Gallwch weld y rhestrau hir yn llawn cyn pleidleisio yma.

Os ydach chi’n o’r bobl brin yma (fel golygydd Y Selar!) sydd ddim ar Facebook, mae modd i chi bleidleisio trwy yrru eich dewis o bob categori i ni ar ebost – gwobrau-selar@outlook.com

Bydd y bleidlais yn cau ar 15 Ionawr

Tocynnau ar werth

Os nad ydy’r newyddion am agor y bleidlais yn ddigon cyffrous i chi, rydym hefyd yn gallu cyhoeddi bod tocynnau cynnar Gwobrau’r Selar ar werth bellach hefyd!

Mae modd i chi archebu tocyn arlein trwy ddilyn y ddolen yma am y pris cynnar o ddim ond £12 (bydd y pris llawn yn £15 nes mlaen).

Byddwn yn dosbarthu tocynnau i siopau amrywiol ledled y wlad yn y man – manylion i ddilyn.

Am newyddion diweddaraf Gwobrau’r Selar, cadwch olwg ar y digwyddiad Facebook a nodwch bod chi’n dod…bydden ni wrth ein bodd yn gweld chi x