Rydan ni’n falch iawn i gyhoeddi mai Cpt Smith fydd y grŵp nesaf i ryddhau sengl fel rhan o gynllun Clwb Senglau’r Selar.
Bydd y gân roc gyffrous, ‘Resbiradaeth’, allan i’w lawr lwytho’n ddigidol ar ddydd Llun 25 Mai, ond mae modd i chi rag-archebu ar iTunes nawr.
Mae Cpt Smith wedi creu cryn argraff arnom ni ers clywed rhai o’r tiwns maen nhw wedi rhoi ar eu tudalen Soundcloud, ac roedden nhw’n ardderchog yn gig Twrw Trwy’r Dydd yng Nghaerdydd yn ddiweddar.
Bydd Resbiradaeth yn siŵr o ddal y sylw, ac rydan ni’n disgwyl ei chlywed ym mhobman dros yr haf.
Bydd modd i chi ddysgu mwy am Cpt Smith yn rhifyn Mehefin o’r Selar wrth iddyn nhw gael sylw ‘Ti Di Clywed…’. Mae’r rhifyn hwnnw allan yn Eisteddfod yr Urdd ar 25 Mai, a bydd cyfle i chi weld Cpt Smith yn perfformio’n fyw ar lwyfan perfformio Eisteddfod yr Urdd bnawn Iau 28 Mai.