Fe fydd pleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar yn cau nos fory (Gwener 16 Ionawr) am 23:00.
Mae gan bawb sydd heb fwrw pleidlais yn barod ychydig dros 24 awr i wneud hynny felly. Gallwch fwrw pleidlais dros y categoriau i gyd ar yr ap Facebook Gwobrau’r Selar, neu mae modd i unrhyw un sydd ddim ar Facebook fwrw pleidlais ebost – mae manylion sut i wneud hynny a’r rhestrau hir i gyd fan yma.
Fe fydd y rhestrau byr yn cael eu cyhoeddi’n fuan wedi i’r bleidlais gau, a byddwn hefyd yn cyhoeddi lein-yp digwyddiad Gwobrau’r Selar sy’n cael ei gynnal yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 21 Chwefror.
Ar ôl llwyddiant y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Gwobrau’r Selar yn tyfu eto eleni ac yn datblygu teimlad gŵyl go iawn gyda 12 awr o gerddoriaeth fyw yn dechrau am 13:00. Mae tocynnau eisoes yn gwerthu’n dda ar Sadwrn.com a nifer o fysus yn cael eu trefnu o bob cwr o Gymru. Mae cynnig arbennig i unrhyw un sy’n trefnu bws – cysylltwch â ni am fwy o fanylion os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud hynny – yselar@live.co.uk.