Cyhoeddi enillwyr Gwobrau’r Selar

Yws Gwynedd, Candelas a Sŵnami oedd prif enillwyr Gwobrau’r Selar a gynhaliwyd yn Aberystwyth neithiwr.

Dyma’r drydedd flwyddyn i gylchgrawn Y Selar gynnal digwyddiad i ddathlu llwyddiant cerddoriaeth Gymraeg gyfoes a heidiodd cannoedd o bobl ifanc i Aber i ddathlu a mwynhau gyda phrif artistiaid y sin.

Cipiodd cyn ganwr Frizbee, Yws Gwynedd, dair gwobr sef ‘Artist Unigol Gorau’, ‘Cân Orau’ am y trac ‘Neb ar Ôl’, a ‘Record Hir Orau am ei albwm unigol cyntaf Codi / \ Cysgu.

Er nad oedd Yws yn perfformio ar y noson o ganlyniad i enedigaeth diweddar ei blentyn cyntaf, roedd yn Aberystwyth i gasglu ei hatric o wobrau.

Gadawodd Sŵnami gyda dwy wobr – ‘Record Fer Orau’ am eu sengl ddwbl ‘Cynnydd / Gwenwyn’, a ‘Fideo Gorau’ am ‘Gwenwyn’ a gynhyrchwyd gan Storm + Shelter.

Roedd yn noson lwyddiannus hefyd i Candelas, oedd yn cloi y digwyddiad cofiadwy gyda set anhygoel, wrth iddyn nhw gipio gwobrau ‘Gwaith Celf Gorau’ ac efallai prif deitl y noson, ‘Band Gorau’.

Parti Cofiadwy

Gyda tua 700 o bobl yn dod i ymuno â’r dathlu gyda’r enillwyr, does dim amheuaeth bod Gwobrau’r Selar eleni yn ddigwyddiad cofiadwy iawn unwaith eto.

“A hithau’n drydedd flwyddyn i ni gynnal Gwobrau’r Selar fel digwyddiad byw, does dim amheuaeth ei fod wedi cydio yn nychymyg pobl, a bod yr artistiaid a’r gynulleidfa’n gweld hwn fel un o uchafbwyntiau cerddorol y flwyddyn” meddai Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone.

“Mae’r ffaith mai’r gynulleidfa sy’n dewis yr enillwyr yn y bleidlais gyhoeddus yn golygu bod ganddyn nhw berchnogaeth dros yr holl beth a dwi’n credu bod hynny’n ffactor amlwg yn llwyddiant y digwyddiad.”

Aber yn apelio

Prif noddwyr Gwobrau’r Selar eleni oedd Prifysgol Aberystwyth, ac mae’n amlwg bod lleoliad canolog y dref yn apelio at y gynulleidfa wrth i bobl deithio o bob cwr o Gymru i’r digwyddiad.

“Unwaith eto eleni roedd nifer o fysus yn llawn o bobl yn teithio i Aber, ac mae’n arwydd da iawn bod criwiau o bobl ifanc yn fodlon teithio o Ynys Môn, Caerdydd, Sir Benfro a thu hwnt er mwyn dod i ddigwyddiad fel hwn” meddai Owain Schiavone.

“Mae’n awgrymu bod y sin yn rywbeth cyffrous ar hyn o bryd, ac mae hynny’n gadarnhaol iawn ar gyfer y dyfodol.”

Rhestr lawn enillwyr Gwobrau’r Selar:

Record Fer Orau – Cynnydd / Gwenwyn – Sŵnami

Cân Orau – Neb ar Ôl – Yws Gwynedd

Gwaith Celf Gorau – Bodoli’n Ddistaw – Candelas

Hyrwyddwyr Gorau – 4 a 6

Cyflwynydd Cerddoriaeth Gorau – Lisa Gwilym

Artist Unigol Gorau – Yws Gwynedd

Digwyddiad Byw Gorau – Maes B, Eisteddfod Llanelli

Fideo Cerddoriaeth Gorau – Gwenwyn – Sŵnami

Record Hir Orau – Codi / \ Cysgu – Yws Gwynedd

Band neu Artist Newydd Gorau – Ysgol Sul

Band Gorau – Candelas

Offerynnwr Gorau – Lewis Williams (Sŵnami / Candelas)