Mae’r Selar yn falch iawn i gyhoeddi lein-yp y digwyddiad mawreddog fydd yn cael ei gynnal yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 21 Chwefror.
Bydd cerddoriaeth fyw trwy’r dydd eleni o 1pm i 1am, ac amrywiaeth eang o artistiaid sy’n adlewyrchu gweithgarwch cerddorol 2014.
Mae tocynnau’n gwerthu’n dda ar Sadwrn.com eisoes, a bydd y cyffro’n siŵr o gynyddu gyda’r cyhoeddiad fod rhai o fandiau gorau’r sin, gan gynnwys Candelas, Sŵnami, Y Ffug, Plu ac Y Reu ymysg y perfformwyr eleni.
Mae ymestyn oriau’r parti eleni’n rhoi cyfle i lwyfannu rhai o artistiaid ifanc mwyaf cyffrous y sin, gan gynnwys Ysgol Sul, Tymbal, Y Trŵbz, Tom ap Dan a Mellt.
Bydd y Gwobrau hefyd yn dathlu amrywiaeth y sin gydag artistiaid mwy amgen sydd wedi cael blwyddyn weithgar yn perfformio. Bydd y rapiwr a bît bocsiwr Mr Phormula yn cynrychioli cerddoriaeth hip-hop Cymraeg, a’r Carcharorion yn dod ag ychydig o gerddoriaeth electroneg arbrofol i’r parti.
“Bydd mwy o deimlad gŵyl eleni gyda cherddoriaeth trwy’r dydd, gyda dau lwyfan gefn wrth gefn gyda’r hwyr a chyfle i lu o artistiaid berfformio” meddai Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone.
“Mae’r lein-yp wedi’i ddewis yn ofalus er mwyn ceisio adlewyrchu gweithgarwch y flwyddyn a fu, ac mae hynny’n cynnwys cynnig llwyfan i artistiaid ifanc sydd wedi creu eu marc yn 2014.”
Bydd tocynnau’n cael eu dosbarthu i siopau amrywiol dros yr wythnos nesaf, ond yn y cyfamser mae modd i chi archebu tocyn arlein trwy Sadwrn.com