Rydym yn falch iawn i allu rhyddhau manylion cyntaf Gwobrau’r Selar eleni.
Datgelwyd yn rhifyn newydd Y Selar bod y digwyddiad yn cael ei gynnal am y bedwaredd flwyddyn, a hynny ar ddydd Sadwrn 20 Chwefror.
Yn dilyn llwyddiant aruthrol llynedd, gyda bysiau’n teithio o bob cwr o Gymru, Undeb Myfyrwyr Aberystwyth fydd y lleoliad unwaith eto.
Unwaith eto, bydd llwyth o artistiaid gorau a mwyaf gweithgar y sin dros y flwyddyn ddiwethaf yn perfformio,a byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion dros y misoedd nesaf.
Yn ôl yr arfer, chi, darllenwyr Y Selar fydd yn dewis enillwyr y Gwobrau a bydd y bleidlais yn agor ar 12 Rhagfyr.
Cyn hynny, mae cyfle i chi enwebu enwau ar gyfer pob un o’r 12 categori canlynol:
- Record Fer Orau
- Cân Orau (i’w rhyddhau / cyhoeddi ar unrhyw fformat)
- Hyrwyddwr/wyr Gorau
- Gwaith Celf Gorau
- Cyflwynydd Gorau
- Artist unigol Gorau
- Band neu artist newydd Gorau
- Digwyddiad Byw Gorau
- Band y Flwyddyn
- Record Hir Orau
- Offerynnwr Gorau
- Fideo cerddoriaeth gorau
I gynnig enwebiadau ar gyfer unrhyw un o’r categoriau uchod gyrrwch ebost i ni ar gwobrau-selar@outlook.com erbyn 1 Rhagfyr. Bydd pob enwebiad yn cael eu hystyried gan banel Gwobrau’r Selar, fydd yn llunio rhestrau hir ar gyfer y bleidlais gyhoeddus. Bydd 5 o ddarllenwyr Y Selar ar banel Gwobrau’r Selar eleni – os ydych chi am fod yn un o’r rhain, gyrrwch ebost i’r cyfeiriad uchod gyda brawddeg yn dweud pam.