Cyhoeddi rhestr fer Artist Unigol Gorau Gwobrau’r Selar

Dros yr wythnos diwethaf mae’r Selar wedi bod yn brysur yn cyhoeddi rhestrau byr Gwobrau’r Selar (#gwobraurselar) yn nosweithiol, a thro categori ‘Artist Unigol Gorau’ 2014 oedd hi neithiwr.

Mae’r categori’n cael ei noddi gan Rondo, ac mae dwy o’r dair merch oedd ar rhestr fer y categori yma llynedd, Casi Wyn a Kizzy Crawford, unwaith eto ar y rhestr eleni.

Yn ymuno â nhw mae cyn ganwr y grŵp Frizbee, Yws Gwynedd, a ryddhaodd ei albwm unigol cyntaf yn 2014 – Codi / \ Cysgu.

Ymysg y categoriau eraill sydd wedi eu cyhoeddi mae Cyflwynydd Gorau, a noddir gan Heno eleni – Lisa Gwilym, Dyl Mei a Griff Lynch sydd wedi cyrraedd y tri uchaf.

Roedd pleidlais ‘Record Fer Orau’ eleni gyda’r agosaf, a bydd yn ddifyr gweld os mai EP Y Ffug – Cofiwch Dryweryn; EP Yr Eira – Colli Cwsg; ynteu sengl ddwbl Sŵnami – Cynnydd / Gwenwyn fydd yn mynd â’r wobr sy’n cael ei noddi gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Mae dau gategori ar ôl i’w cyhoeddi eto sef ‘Band newydd Gorau’ a’r ‘Band Gorau’ – cadwch olwg ar ffrwd trydar Y Selar dros y ddeuddydd nesaf i weld rhain.

Bydd Gwobrau’r Selar yn cael ei gynnal yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 21 Chwefror, ac mae’r tocynnau’n gwerthu’n arbennig o dda. Mae modd i chi archebu tocyn o Sadwrn.com neu maent hefyd ar gael yn Siop Inc, Aberystwyth; Siop y Pentan, Caerfyrddin; Swyddfa UMCA, Aberystwyth; Awen Meirion – Y Bala; a Palas Print, Caernarfon.

Dyma’r categoriau eraill sydd wedi eu henwi hyd yma:

Record Fer Orau (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg): Cofiwch Dryweryn – Y Ffug; Colli Cwsg – Yr Eira; Cynnydd / Gwenwyn – Sŵnami

Cân Orau (Noddir gan Ochr 1): Neb ar Ôl – Yws Gwynedd ; Cariad Dosbarth Canol Cymru – Y Ffug; Trysor – Yr Eira

Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa): Arthur – Plu; Colli Cwsg – Yr Eira; Bodoli’n Ddistaw – Candelas

Hyrwyddwyr Gorau (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth): Gŵyl Gwydir; 4 a 6 ; Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Cyflwynydd Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan Heno): Lisa Gwilym ; Dyl Mei; Griff Lynch

Artist Unigol Gorau (Noddir gan Rondo): Kizzy Crawford; Yws Gwynedd; Casi Wyn

Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Y Stiwdio Gefn): Gŵyl Crug Mawr; Maes B ; Gŵyl Gwydir

Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan S4C): Cynt a’n Bellach – Candelas; Gwenwyn – Sŵnami ; Deud y Byddai’n Disgwyl – Cowbois Rhos Botwnnog

Record Hir Orau (Noddir gan Rownd a Rownd): Codi / \ Cysgu – Yws Gwynedd; Bodoli’n Ddistaw – Candelas; Codi’n Fore – Bromas

Categori newydd: Offerynnwr Gorau (Noddir gan Coleg Ceredigion): Enillydd i’w gyhoeddi ar y noson