Dros y deuddydd diwethaf rydym wedi cyhoeddi dwy o restrau byr Gwobrau’r Selar eleni.
Nos Lun, cyhoeddwyr rhestr fer categori ‘Record Hir Orau’ 2014, gyda Bodoli’n Ddistaw – Candelas; Codi / \ Cysgu – Yws Gwynedd; a Codi’n Fore – Bromas, yn cyrraedd brig y bleidlais gyhoeddus eleni.
Yna nos Fawrth, tro y bobl bwysig hynny sy’n trefnu’r gigs oedd hi – criw nosweithiau 4 a 6, trefnwyr Gŵyl Gwydir a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg ydy’r tri sy’n cyrraedd rhestr fer categori Hyrwyddwr Gorau eleni.
Byddwn yn cyhoeddi rhestr fer arall bob nos am 9:00, felly cadwch olwg ar ffrwd trydar Y Selar ac ar ddigwyddiad Facebook y Gwobrau. Tro ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’ fydd hi heno, nos Fercher 4 Chwefror.
Mae tocynnau Gwobrau’r Selar yn gwerthu’n dda iawn – cofiwch bod y tocynnau ar gael am y pris cynnar o £10 nes dydd Sadwrn yma (7 Chwefror) ond bod y pris yn codi i’r pris llawn o £14 o hynny ymlaen.