Mae Brigyn wedi cyhoeddi bod eu halbwm newydd, Dulog, yn cael ei ryddhau wythnos nesaf ar 5 Rhagfyr.
Dyma fydd pedwerydd albwm y ddau frawd Ynyr ac Eurig Roberts, ac maen nhw wedi torri ar draddodiad gydag enw’r albwm newydd.
Enwau’r tri albwm cyntaf oedd Brigyn 1, Brigyn 2, a Brigyn 3…ond Dulog fydd enw’r record newydd.
Mae rheswm arbennig am hyn, sef bod yr albwm yn un go wahanol sy’n cloi blwyddyn o ddathlu 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia. Fel rhan o’r dathliadau mae Brigyn wedi bod yn cydweithio tipyn ag Alejandro a Leonardo Jones o Drevelin yn yr Andes yn ystod y flwyddyn, ac mae’r ddau yn ymddangos ar y cagliad newydd.
Mae Nicolas Avila o Batagonia, a Casi Wyn hefyd yn ymddangos ar yr albwm newydd sydd wedi’i enwi ar ôl creadur bach sydd i’w weld ar diroedd Patagonia.
Bydd cyfle i chi weld Brigyn yn perfformio’n fyw yng Nghlwb Rygbi Pen y Bont ar Ogwr nos fory (27 Tachwedd) yn ogystal ag yng Nghapel Salem, Treganna, Caerydd ar 20 Rhagfyr.
Mae Dulog yn y siopau ar 5 Rhagfyr.