Mae dau grŵp sydd wedi bod yn rhan o gynllun Senglau’r Selar yn ryddhau EPs cyntaf y mis yma.
Roedd Ysgol Sul yn lansio eu EP newydd, Huno, mewn gig yn y Parot yng Nghaerfyrddin nos Wener diwethaf wrth iddyn nhw gefnogi Yws Gwynedd (aka ‘Y Bryn Fôn newydd).
Dyna ydy casgliad cyntaf y grŵp o Landeilo a rhyddhaodd dwy sengl yn y gwanwyn eleni, sef ‘Aberystwyth yn y Glaw’ fel rhan o Glwb Senglau’r Selar ym mis Chwefror a Machlud Haul ym mis Mawrth. Mae’r EP allan ar label I Ka Ching, ac yn yr un modd â’r senglau, mae’r grŵp wedi bod yn gweithio gyda Llŷr Pari fel cynhyrchydd.
Mae EP cyntaf Patrobas, Dwyn y Dail, allan yn barod a bydd y gig lansio swyddogol yn Fic Llithfaen nos Wener 11 Rhagfyr.
Rhyddhawyd sengl gyntaf y grŵp, ‘Meddwl ar Goll’, fel rhan o gynllun Clwb Senglau’r Selar ym mis Mehefin eleni. Mae’r EP newydd allan ar label Sain.
Bydd cyfle i weld Patrobas yn gigio dros gyfnod y Nadolig wrth iddyn nhw berfformio yng Nghlwb Rygbi Pwllheli ar 18 Rhagfyr, ac yna yn Nhafarn y Ship, Aberdaron nos Calan.
Llun: Patrobas