Y grŵp diweddaraf i ryddhau eu sengl gyntaf fel rhan o gynllun Clwb Senglau’r Selar ydy’r grŵp o Wynedd, Y Galw.
Fe fydd modd lawr lwytho ‘Terfyn’ o’r prif siopau cerddoriaeth digidol, gan gynnwys iTunes, Spotify ac Amazon, o ddydd Llun 12 Hydref ymlaen ac mae modd rhag archebu’r gân nawr.
Sengl Y Glaw ydy’r nawfed i’w rhyddhau fel rhan o’r cynllun, gan ddilyn enwau fel Estrons, Ysgol Sul, Terfysg ac yn fwyaf diweddar Raffdam.
Pwy ydy Y Galw?
Y Galw ydy Sion Emlyn Parry (prif lais a gitâr), Magi Tudur (ail lais a gitâr), Wil Coles (gitâr fas) a Math Emyr (drymiau).
Y grŵp ydy’r diweddaraf o linach hir o grwpiau sydd wedi ffurfio ym Ysgol Brynrefail yn Llanrug gan ddilyn ôl traed Beganifs / Big Leaves, Gogz a Vanta ymysg eraill.
Mae Magi’n dal i astudio yn Ysgol Brynrefail, ond y tri arall bellach wedi mynd i brifysgolion – Wil yn astudio Biocemeg Meddygol yn Abertawe, Math yn astudio Cyfrifeg yng Nghaerdydd, Sion yn astudio Perfformio yng Nghaerdydd.
Mae’r band yn amharod i osod eu hunain mewn unrhyw genre penodol, gyda’r sŵn yn amrywio o ffync i roc trwm, a pop i faledi roc ysgafn. Mae ‘Terfyn’ yn disgyn i’r categori roc trymach, sy’n siŵr o hawlio sylw’r gwrandawyr.
Er bod sŵn Y Galw’n amrywio, maen nhw’n rhestru grwpiau fel Coldplay, Oasis a Vanta ymysg eu dylanwadau mwyaf.
Cafodd y sengl ei recordio yn stiwdio Sain ym mis Gorffennaf eleni, gyda Sion Jones yn cynhyrchu. Ers hynny, mae’r grŵp wedi dychwelyd i’r un stiwdio i recordio EP a fydd allan ym mis Rhagfyr eleni.