Gwenno’n cipio’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig

Newyddion da o lawenydd mawr a gyrhaeddodd glustiau’r Selar yn gynharach heno, sef bod Gwenno wedi cipio teitl y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ar gyfer eleni.

Y Dydd Olaf ydy’r albwm Cymraeg cyntaf i gipio’r wobr uchel ei pharch, a hynny yn y bumed flwyddyn o gynnal y wobr.

Fe enillodd albwm ddwy-ieithog Georgia Ruth Williams, Week of Pines, y teitl yn 2012-13, a Gruff Rhys enillodd y wobr yn ei blwyddyn gyntaf yn 2010-11 gyda’r albwm Saesneg Hotel Shampoo.

Gellir dadlau mai albwm ddwy-ieithog ydy Y Dydd Olaf, gan fod un gân mewn Cernyweg ond heb os record Gymraeg ydy hi yn ei hanfod, wedi ei seilio ar y nofel ffuglen wyddonol o’r un enw gan Owain Owain.

Roedd presenoldeb gref gan Y Selar ar y panel beirniaid eleni, gydag Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone, a’r colofynydd rheolaidd Griff Lynch ar y panel oedd yn dewis yr enillydd.

“Dwi’n falch iawn mai Gwenno sydd wedi mynd â’r wobr eleni, gyda’i halbwm arloesol sydd wedi dangos y ffordd i artistiaid Cymraeg mewn sawl ystyr” meddai Owain Schiavone.

“Roedd gen i deimlad bod ganddi obaith da ar ôl ein trafodaeth fel panel bythefnos yn ôl. Roedd hi’n braf iawn clywed y beirniaid di-Gymraeg yn siarad mor gadarnhaol am y record, ac roedden nhw’n amlwg wedi deall y record, heb angen deall yr iaith ac mae hynny’n glod i Gwenno a Rhys Jakokoyak fel cynhyrchydd.”

“Mae’r albwm yma wedi dangos bod modd i record Gymraeg lwyddo ar lefel rhyngwladol, a gobeithio bydd modd i hyn agor y drws i fwy o artistiaid Cymraeg.”