Henebion i ryddhau Sengl nesaf y Clwb

Y grŵp ifanc addawol o Fachynlleth, Henebion, fydd y nesaf i ymuno â Chlwb Senglau cylchgrawn Y Selar wrth iddyn nhw ryddhau’r gân ‘Mwg Bore Drwg’ ar 25 Mawrth.

I gyd-fynd â rhyddhau sengl gyntaf Henebion, bydd y grŵp yn chwarae dau gig gyda band gorau Cymru yn ôl pleidleiswyr Gwobrau’r Selar, sef Candelas. Mae hynny’n briodol iawn gan mai gitarydd Candelas, Ifan Jones, sydd wedi cynhyrchu’r sengl yn Stiwdio Sain yn Llandwrog.

Mae’r cyntaf o’r gigs yn ysgol aelodau Henebion, sef Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth ar 25 Mawrth, a’r ail ddeuddydd yn ddiweddarach yng Nghlwb Rygbi COBRA ym Meifod.

Daeth Henebion i sylw Y Selar gyntaf wrth iddyn nhw berfformio yn gig ‘O’r Selar’ mis Tachwedd yng Nghanolfan y Celfyddydau. Bryd hynny roedden nhw’n perfformio dan yr enw Dio’s Basement.

Pwy ydy Henebion?

Mae Henebion yn grŵp tri aelod o Fachynlleth sef Kristian Jones (gitâr a phrif lais), Jake Hinge (gitâr fas) a Dio Davies (drymiau).

Ffurfiwyd y grŵp ym mis Gorffennaf 2014, yn wreiddiol dan yr enw Dio’s Basement … gan eu bod yn ymarfer yn Selar tŷ Dio … cyn setlo ar yr enw Henebion.

Mae Henebion yn disgrifio eu hunain fel ‘band roc’ ac yn rhestr grwpiau fel Nirvana, Green Day, Blink-182, ac wrth gwrs Candelas, ymysg eu dylanwadau.

Bydd modd i chi lawr lwytho ‘Mwg Bore Drwg’ o’r prif siopau cerddoriaeth digidol – iTunes, Spotify ac Amazon – o 25 Mawrth ymlaen.