Mae Maes-B ac C2 Radio Cymru wedi lansio cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2016, gyda £1000 i’r enillwyr ynghyd â nifer o wobrau ardderchog eraill.
Llynedd oedd y tro cyntaf i’r Eisteddfod a Radio Cymru drefnu’r gystadleuaeth ar y cyd, yn hytrach na chynnal dwy gystadleuaeth ar wahan fel yr oedden nhw’n arfer gwneud – gwneud lot o sens yn ein barn ni!
Lost in Chemistry o’r Bari oedd y band buddugol yn y gystadleuaeth llynedd.
Yn ogystal â’r wobr ariannol, bydd yr enillwyr yn cael cyfle i recordio sesiwn C2, cael eu ffilmio ar gyfer rhaglen Ochr 1 ar S4C, ac yn cael eu cynnwys yn eich hoff gylchgrawn cerddoriaeth cyfoes Cymraeg, Y Selar fel y geiriosen ar ben y pwdin blasus.
Mae modd i unrhyw grŵp sydd heb ryddhau unrhyw gynnyrch gystadlu, neu beth am fynd ati i ffurfio band i roi tro arni.
Dyddiad cau’r gystadleuaeth ydy 20 Chwefror, a bydd rowndiau rhanbarthol mewn gwahanol rannau o Gymru yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnosau canlynol, a’r rownd derfynol i’w chynnal ar lwyfan y maes yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau ar nos Fercher y Steddfod.
Mae manylion llawn y gystadleuaeth ar wefan C2.