Meddwl ar Goll allan rŵan

Mae’r sengl ddiweddaraf o gasgliad Clwb Senglau’r Selar, ‘Meddwl ar Goll’ gan Patrobas allan i’w lawr lwytho’n ddigidol heddiw.

Recordiodd y band y sengl yn Stiwdio Sain yn Llandwrog, gyda Sion Jones yn cynhyrchu.

Dyma’r seithfed sengl i’w rhyddhau fel rhan o gynllun Clwb Senglau’r Selar sy’n bartneriaeth rhwng Y Selar a label Rasal. Mae Patrobas yn dilyn ôl traed grwpiau fel Estrons, Ysgol Sul a Cpt Smith sydd eisoes wedi rhyddhau senglau cyntaf fel rhan o’r cynllun.

Mae Patrobas yn plethu sŵn gwerinol gyda dylanwadau roc i greu potes ddifyr iawn o gerddoriaeth.

Mae’r grŵp yn gigio’n rheolaidd ar hyn o bryd, a byddant yn cynnal gig lansio swyddogol mewn cydweithrediad â 4 a 6 yng Nghlwb Canol Dre, Caernarfon ar nos Sadwrn 11 Gorffennaf.

Mae modd i chi lawr lwytho’r ‘Meddwl ar Goll’ ar iTunes rŵan.