Mae sengl gyntaf y grŵp o Fachynlleth, Henebion, ‘Mwg Bore Drwg’ wedi’i ryddhau heddiw (25/03/15) fel y diweddaraf o ganeuon Clwb Senglau’r Selar.
Mae’r sengl bellach ar gael i’w lawr lwytho o’r prif siopau cerddoriaeth digidol – iTunes, Spotify ac Amazon. Gallwch hefyd lawr lwytho’r sengl o wefan Sain. Rydan ni’n awgrymu’n gryf eich bod chi’n mynd ymaith i lawr lwytho’r sengl gan ei bod hi’n tiwn a hanner!
Cofiwch bod Henebion yn cefnogi Candelas mewn gig yng Nghlwb Rygbi COBRA ym Meifod nos Wener yma, 27 Mawrth. Dyma leoliad gig Cymdeithas yr Iaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni felly os ydach chi yn y cyffiniau yna glawch mewn i weld y ddau fand gwych ac i gael cipolwg fach o’r hyn sydd i ddod yn Steddfod!