Patrobas yn ymaelodi â’r Clwb Senglau

Patrobas, y grŵp gwerin cyfoes o Benllŷn ydy’r diweddaraf i ryddhau eu sengl gyntaf trwy gynllun Clwb Senglau’r Selar.

Bydd ‘Meddwl ar Goll’ yn cael ei rhyddhau’n ddigidol ar ddydd Llun 29 Mehefin, ac ar gael i’w lawr lwytho o’r prif siopau cerddoriaeth digidol gan gynnwys iTunes, Spotify ac Amazon.

Sengl Patrobas fydd y seithfed i’w rhyddhau fel rhan o’r cynllun Clwb Senglau sy’n bartneriaeth rhwng cylchgrawn Y Selar a label Rasal, a sydd â’r nod o ryddhau cynnyrch cyntaf artistiaid Cymraeg addawol.

Pwy ydy Patrobas?

Patrobas ydy Wil Chidley (Gitar, Llais, Banjo, Mandolin) o Tudweiliog, Iestyn Tyne (Ffidil, Mandolin) o Boduan, Carwyn Williams (Gitar fás) o Morfa Nefyn a Ronw Roberts (Drymiau) o Rhoshirwaun.

Mae’r aelodau i gyd yn gyn ddisgyblion Ysgol Botwnnog, ond bellach yn dilyn cyrsiau addysg bellach yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Coleg Meirion Dwyfor a Choleg Menai.

Ymysg eu dylanwadau, mae Patrobas yn rhestru grwpiau fel Old Crow Medicine Show a Mumford and Sons. A hwythau’n grŵp ifanc o Lŷn mae’n debyg nad yw’n syndod bod Cowbois Rhos Botwnnog yn un o’r grwpiau Cymraeg sydd wedi dylanwadu arnyn nhw, yn ogystal â Gai Toms.

Mae sŵn y grŵp yn un eithaf unigryw – mae’r dylanwadau gwerin yn amlwg, ond wedi plethu gyda hynny mae sŵn roc sy’n creu potes ddiddorol gyda digon o fynd i’r gerddoriaeth.

Bydd gig lansio swyddogol y sengl newydd yng Nghlwb Canol Dre, Caernarfon mewn cydweithrediad â chriw 4 a 6 ar nos Sadwrn 11 Gorffennaf gydag Y Chwedlau yn cefnogi Patrobas.