Raffdam i ryddhau Sengl Selar

Mae’r Selar yn falch iawn i gyhoeddi mai Raffdam ydy’r diweddaraf i ryddhau eu sengl gyntaf fel rhan o gynllun Clwb Senglau’r Selar.

Bydd ‘Llwybrau’ ar gael i’w prynu o’r prif siopau digidol o ddydd Llun 28 Medi.

Mae Raffdam yn grŵp gwerin-cyfoes o Geredigion, gyda thri aelod yn hanu o ardaloedd Pontrhydfendigaid a Thalgarreg – Mari Mathias (llais a gitâr); Dafydd Syfydrin (drwm bas, tambwrîn, gitâr) a Siôn Rees (Banjo, ukulele a mandolin).

Mae’r grŵp wedi bod yn perfformio gyda’i gilydd ers peth amser, ond wedi setlo ar yr enw Raffdam yn y chwe mis diwethaf ac wedi cael haf prysur a llwyddiannus iawn o gigio.

Yn ogystal â pherfformio mewn gwyliau poblogaidd fel Gŵyl Nôl a Mlân a Gŵyl Crug Mawr, fe lwyddodd Raffdam i gyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau C2 a’r Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd ar faes yr Eisteddfod ym Meifod fis Awst.

Mae modd i chi ddarllen mwy am hanes Raffdam yn ein darn am fandiau rownd derfynol y gystadleuaeth yn rhifyn diweddaraf Y Selar.

Recordiwyd ‘Llwybrau’ yn stiwdio Sain yn Llandwrog ym mis Gorffennaf gyda Sion Jones yn cynhyrchu.

Mae modd rhag archebu’r sengl nawr ar wefan Sain.