Mae rhestrau byr Gwobrau’r Selar bellach wedi eu cyhoeddi’n llawn.
Cyhoeddwyd rhestr fer un o’r prif wobrau, sef Band Gorau, neithiwr i gwblhau’r rhestrau eleni.
Sŵnami, Candelas ac Y Ffug fydd yn brwydro am deitl y Band Gorau eleni – y tri grŵp fel mae’n digwydd ar lein-yp Gwobrau’r Selar yn Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth ar Sadwrn 21 Chwefror.
Y noson flaenorol fe wnaethom ni gyhoeddi mai Tymbal, Fleur de Lys ac Ysgol Sul sy’n llunio rhestr fer categori ‘Band neu Artist Newydd Gorau.
Dyma’r rhestrau byr yn llawn ar gyfer eleni:
Rhestrau Byr Gwobrau’r Selar 2014
Record Fer Orau (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg): Cofiwch Dryweryn – Y Ffug; Colli Cwsg – Yr Eira; Cynnydd / Gwenwyn – Sŵnami
Cân Orau (Noddir gan Ochr 1): Neb ar Ôl – Yws Gwynedd ; Cariad Dosbarth Canol Cymru – Y Ffug; Trysor – Yr Eira
Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa): Arthur – Plu; Colli Cwsg – Yr Eira; Bodoli’n Ddistaw – Candelas
Hyrwyddwyr Gorau (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth): Gŵyl Gwydir; 4 a 6 ; Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Cyflwynydd Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan Heno): Lisa Gwilym ; Dyl Mei; Griff Lynch
Artist Unigol Gorau (Noddir gan Rondo): Kizzy Crawford; Yws Gwynedd; Casi Wyn
Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Y Stiwdio Gefn): Gŵyl Crug Mawr; Maes B ; Gŵyl Gwydir
Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan S4C): Cynt a’n Bellach – Candelas; Gwenwyn – Sŵnami ; Deud y Byddai’n Disgwyl – Cowbois Rhos Botwnnog
Record Hir Orau (Noddir gan Rownd a Rownd): Codi / \ Cysgu – Yws Gwynedd; Bodoli’n Ddistaw – Candelas; Codi’n Fore – Bromas
Band neu Artist Newydd Gorau (Noddir gan BBC Radio Cymru): Fleur de Lys; Tymbal; Ysgol Sul
Band Gorau (Noddir gan Gorwelion): Candelas ; Sŵnami; Y Ffug
Categori newydd: Offerynnwr Gorau (Noddir gan Coleg Ceredigion): Enillydd i’w gyhoeddi ar y noson