Mae’r diweddaraf o senglau Clwb Senglau’r Selar, ‘Neb yn Aros’ gan Terfysg allan i’w lawr lwytho’n ddigidol rŵan.
Mae Clwb Senglau’r Selar yn gynllun ar y cyd rhwng Y Selar a label Rasal.
Sengl Terfysg ydy’r pumed i’w rhyddhau trwy’r cynllun yn dilyn caneuon gan Estrons, Y Trŵbz, Ysgol Sul a Henebion.
Gallwch brynu sengl gyntaf y grŵp o Fôn ar iTunes o heddiw ymlaen. Mae’r sengl hefyd ar gael ar Amazon a Spotify.
Pwy ydy Terfysg?
Mae Terfysg yn grŵp 5 aelod sy’n dod o Ynys Môn.
Yr aelodau ydy Aeron Jones (gitâr) a Sion Gwilym (drymiau) o Langefni, Ioan Gwyn (gitâr fas) o Star, James Jones (allweddellau) o Langoed, a Dewi Erwan (prif lais a gitâr) o Frynteg.
Maen nhw gyda’i gilydd fel band ers Awst 2014 ac yn disgrifio eu sŵn fel un eang, gan ddwyn dylanwadau o gerddoriaeth roc, pync, metal a gwerin.
Bydd cyfle i weld y band yn perfformio’n fyw ym mis Mai, yng Ngŵyl Cefni ar 13 Mai, fel rhan o gystadleuaeth Brwydr y Bandiau yng Nghlwb Canol Dre Caernarfon ar 15 Mai ac ar lwyfan perfformio Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili ar 30 Mai.
Grŵp talentog
“Rydan ni wedi dod ar draws Terfysg ers rhai misoedd ac yn credu eu bod nhw’n grŵp ifanc addawol dros ben” meddai Owain Schiavone o’r Selar.
“Mae’r aelodau i gyd yn hynod o dalentog, maen nhw’n dynn eithriadol o ystyried eu bod nhw’n fand ers cyfnod mor fyr, ac mae ganddyn nhw sŵn llawn a ffresh.”
Mae canwr y grŵp, Dewi Erwan yn falch iawn o’r cyfle i recordio a rhyddhau eu sengl gyntaf gyda Chlwb Senglau’r Selar ac yn egluro ei fod wedi arwain at gytundeb recordio’n barod.
“Da ni isho diolch yn fawr i’r Selar am y cyfle i recordio’r sengl yma, sydd wedi’n galluogi ni i ennill contract recordio efo Sain i ryddhau EP, a chael lot o gigs yn y broses.”
“Hefyd, diolch i bawb sydd wedi’n cefnogi o’r dechra – yr annwyl ffans!”