Sengl Ysgol Sul allan heddiw

Mae Ysgol Sul bellach wedi ymuno’n swyddogol â’r Clwb – Clwb Senglau’r Selar hynny ydy!

Sengl gyntaf y grŵp addawol o Landeilo, ‘Aberystwyth yn y Glaw’, ydy’r drydedd sengl i’w rhyddhau fel rhan o brosiect senglau Y Selar.

Mae’r gân, sef y fwyaf adnabyddus o set byw Ysgol Sul, ar gael i’w lawr lwytho o’r prif siopau cerddoriaeth digidol o heddiw ymlaen:

Dolen Aberystwyth yn y Glaw iTunes

Dolen Aberystwyth yn y Glaw Spotify

Dolen Aberystwyth yn y Glaw Amazon

Mae’r Selar yn falch iawn i gydweithio â label I Ka Ching i ryddhau’r sengl ddiweddaraf, ac mae’r label wedi cyhoeddi bellach y byddan nhw’n rhyddhau ail sengl gan Ysgol Sul, sef ‘Machlud Haul’, fis i heddiw (16 Mawrth).

Cafodd y sengl ei chynhyrchu gan Llyr Pari (Y Niwl, Jen Jeniro, Palenco), a’i recordio yn ei stiwdio newydd ym Melin y Coed ger Llanrwst.

Bydd cyfle i chi weld Ysgol Sul yn perfformio’n fyw yng Ngwobrau’r Selar ddydd Sadwrn yma yn Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth. Mae’r grŵp wedi cyrraedd rhestr fer categori ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ y Gwobrau eleni ynghyd â Tymbal a Fleur de Lys.