Os ydach chi’n chwilio am noson fach hamddenol o gerddoriaeth yr wythnos hon yna gallwch chi wneud pethau gwaeth na mynd i un o gigs Taith Haf Gildas dros y dyddiau nesaf.
Mae’r cerddor dawnus i Lansannan yn ffresh o ryddhau ei albwm diweddaraf, ‘Paid a Deud‘, a bydd modd i chi ddarllen adolygiad o’r albwm hwnnw yn rhifyn newydd Y Selar sydd allan wythnos y Steddfod Genedlaethol.
Mae’r daith yn dechrau nos Fercher (22 Gorffennaf) yn The Parrot yng Nghaerfyrddin cyn ymweld ag Aberystwyth, Aberhonddu ac Abertawe. Bydd hefyd cyfle i weld Gildas yn perfformio ar faes yr Eisteddfod ym Meifod ar 3 Awst.
Fel petai cyfres o 4 gig dros 5 diwrnod ddim yn ddigon, mae Arwel Lloyd (sef enw bedydd Gildas) yn cyfuno’r daith gyda thaith seiclo a chanwio elusennol i godi arian at Ymchwil Cancr. Gallwch noddi’r daith yma.
Dyma fanylion llawn gigs taith Haf Gildas:
22/07/15 – The Parrot, Caerfyrddin
23/07/15 – Llew Du, Talybont, ger Aberystwyth
24/07/15 – The Hours Cafe, Aberhonddu
26/07/15 – Tŷ Tawe, Abertawe