Rydym yn falch iawn i gyhoeddi mai Ysgol Sul fydd y grŵp nes i ryddhau sengl trwy gynllun clwb Senglau’r Selar.
Bydd ‘Aberystwyth yn y Glaw’ yn cael ei ryddhau’n swyddogol ar 16 Chwefror, mewn cydweithrediad â label recordiau I Ka Ching.
Mae’r gân yn un o ffefrynnau set byw y grŵp o Landeilo, ac mae’r fersiwn demo wedi’i chwarae’n rheolaidd ar y tonfeddi, ond mae’r grŵp wedi bod yn stiwdio Llyr Pari ym Melin y Coed ger Llanrwst i recordio’r fersiwn newydd.
Bydd modd lawr lwytho’r fersiwn newydd o’r prif siopau cerddoriaeth digidol – iTunes, Spotify ac Amazon.
Mae modd i chi ddal Ysgol Sul yn perfformio’n fyw yng Ngwobrau’r Selar yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar nos Sadwrn 21 Chwefor.