Adfeilion allan yn fuan

Fe fydd pedwerydd albwm The Gentle Good, Ruins / Adfeilion, yn cael ei ryddhau ar ddydd Gwener 14 Hydref.

Yn ogystal â’r fersiwn CD, bydd casgliad diweddaraf y canwr-gyfansoddwr o Gaerdydd, sef Gareth Bonello i ddefnyddio ei enw bedydd, ar gael ar fersiwn feinyl nifer cyfyngedig…ac o’r lluniau rydan ni wedi gweld, mae’r feinyl yn edrych yn hyyyyyfryd.

Dyma albwm cyntaf yr artist gwerin ers ei gampwaith Y Bardd Anfarwol yn 2013, sef enillydd cyntaf gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Roedd Y Bardd Anfarwol yn albwm cysyniadol yn dilyn hanes y bardd enwog o China, Li Bai a bu Gareth yn gweithio gyda cherddorion gwerin yn ninas Chengdu yn China wrth ymchwilio a pharatoi ar gyfer yr albwm.

Does dim un cysyniad penodol i’w record diweddaraf, ond mae ei ganeuon yn ymchwilio i themâu yn cynnwys hanes, hunaniaeth a sylwebaeth gymdeithasol.

Gigs lansio

Bydd Gareth yn cynnal perfformiad arbennig, rhad ac am ddim, yn siop recordiau Spillers yng Nghaerdydd ar 14 Hydref i lansio’r albwm.

Bydd hefyd yn perfformio mewn gig lansio mwy ffurfiol fis yn ddiweddarach, a hynny yn Eglwys Sant Ioan yn Nhreganna…sy’n gorfod bod yn un o leoliadau gigs mwyaf bywiog Cymru ar hyn o bryd!

“Bydd lansiad byw gyda’r band llawn, llinynnau, pres a Georgia Ruth yn canu ‘da fi hefyd” meddai Gareth Bonello wrth Y Selar.

Mae modd archebu tocynnau i’r gig lansio ar-lein nawr.

Er nad yw’r albwm newydd allan nes 14 Hydref, mae modd rhag archebu copi nawr ar wefan Bubblewrap Records, sy’n rhyddhau’r record, a hefyd gwefan siop Spillers.

Mae cwpl o fideos o ganeuon yr albwm newydd wedi’i cyhoeddi ar wefan FRUK yn ddiweddar. Fe gawsoch chi ‘Pen Draw’r Byd’ yn Pump i’r Penwythnos wythnos diwethaf, felly dyma gip o ‘Un i Sain Ffagan’ i chi: