Cyfrannwr newydd i’r Selar, Gethin Griffiths, sy’n adolygu ail EP y band o Fôn…
Roedd hi’n ymddangos ar un adeg fel bod grwpiau Môn yn prysur ffurfio genre pop roc eu hunain, ond erbyn hyn mae Fleur de Lys yn edrych dros y dŵr at grwpiau fel Catfish a Biffy Clyro ar gyfer eu hail EP, Drysa. Ddim ond blwyddyn ers rhyddhau Bywyd Braf, mae sain cyffredinol y grwp wedi aeddfedu, ac nid cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith eu bod wedi darganfod y cyfuniad cywir o bedwar cerddor ers hynny. Wnaeth bod yn rhan o brosiect Gorwelion ddim drwg iddynt ‘chwaith.
Roeddem eisoes wedi clywed caneuon fel ‘Paent’, ‘Ennill’ a ‘Cofia Anghofia’, ond mae’r ymdrech i ddarganfod cyfeiriad cerddorol newydd i’w glywed ar ei amlycaf yn ‘Tydi Nhw’n Dda’ – cân gwbl newydd ar gyfer yr EP. Er i’r ‘Intro’ ddilyn ôl-traed Sŵnami ychydig yn rhy ddeddfol, mae’r troslais, a ddaeth o’r ffilm Hedd Wyn (wrth i’r Archdderwydd gyhoeddi mai ef, drwy ei ffug enw ‘Fleur de Lys’, oedd prifardd Eisteddfod y gadair ddu), yn ei wneud yn berthnasol i agor y casgliad hwn o ganeuon.
Nid pawb sy’n hoff o bop-roc canol y ffordd, ond mae Fleur de Lys wedi dwyn y genre a’i hawlio erbyn hyn. Os bydd gwelliant rhwng yr EP hwn a’r albwm nesaf i’r un graddau a’u datblygiad rhwng Bywyd Braf a Drysa, mae’n debyg na fydd dianc i’r beirniaid rhag y grŵp a achosodd i chi ddal eich hunain yn canu ‘Haf 2013’ o gwmpas y tŷ.
Gethin Griffiths