Golygydd Y Selar, Gwilym Dwyfor sy’n bwrw golwg nôl ar y gig mawreddog yn y Pafiliwn ar nos Iau yr Eisteddfod Genedlaethol…
Wythnos wedi i Eisteddfod wych y Fenni dynnu at ei therfyn mae un uchafbwynt yn aros yn y cof o hyd. Oedd, roedd agoriad ‘Zombie Nation’ y Reu ym Maes B nos Iau yn wych a rhoddodd Band Pres Llareggub wledd i’r glust a’r llygaid wrth gloi arlwy’r nos Sadwrn, ond mae un digwyddiad y mae pawb yn siarad amdano o hyd.
Sôn ydw i wrth gwrs am y nos Iau yn y Paf, y cyngerdd neu’r gig neu beth bynnag y galwch chi o yn y lle sydd bellach ddigon cŵl i deilyngu talfyriad unsill slic. Dyma’r noson y daeth y rheiny sydd byth yn mynd i gigs a’r rhai sydd byth yn mynd i’r Pafiliwn ynghyd ar gyfer… wel… gig yn y Pafiliwn.
Ffoniwch y BBC, mae pwy bynnag a gafodd y syniad o roi Sŵnami, Yr Ods a Candelas i rannu prif lwyfan yr ŵyl gyda Cherddorfa’r Welsh Pops yn haeddu cael eu henwi yng ngharfan pêl droed nesaf Cymru.
Tri o brif fandiau’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn chwarae gyda cherddorfa, roedd hyn yn newydd i bawb, i’r gynulleidfa a’r bandiau. Sŵnami a oedd â’r dasg anodd o ddechrau pethau. Oedd, roedd Huw Stephens yn ei dei bach del wedi dweud bod croeso i bobl ddawnsio yn y tu blaen ond doedd neb yn hollol siŵr yn ystod y caneuon cyntaf os mai hynny oedd “y peth i’w wneud”.
Diolch byth, roedd Sŵnami mor dda nes nad oedd gan y gynulleidfa fawr o ddewis. Wrth i’w set agosáu at y diwedd, cododd un boi meddw ar ei draed, rhedodd un neu ddau arall i’r gwagle o flaen y llwyfan… ac ychydig dros awr yn ddiweddarach roedd hi’n tops off yn y rhesi cefn wrth i Candelas gloi gyda ‘Rhedeg i Paris’. Tops off yn y Paf, tops off… yn y Pafilwin!
Roedd yr Ods wedi perfformio yn y canol wrth gwrs, ac i mi, hon a oedd y briodas orau gyda’r gerddorfa. Roedd y naws epig hwnnw sydd yn perthyn i ganeuon yr Ods yn barod yn benthyg ei hunain yn dda i’r adran linynnol yn enwedig. A does fawr o syndod efallai mai caneuon Osian Howells, ‘Addewidion’ a ‘Cau Dy Lygaid’ gyda’u naws Yucatan-aidd oedd dau o uchafbwyntiau’r noson.
Yn wir, mae pa ganeuon a weithiodd orau gyda threfniant cerddorfaol Owain Llwyd wedi bod yn destun sawl sgwr ddifyr dros yr wythnos ddiwethaf. Dwi wedi trafod ac anghytuno â sawl un ac wedi newid fy meddwl ambell waith. Dwi wedi dod i’r casgliad fod yr elfen glasurol honno yn amlwg wedi cyfrannu’n helaeth at set y tri band, ond eto, dwi’n ffendio fy hun yn dychmygu sut noson a fyddai hi wedi bod hebddyn nhw.
Hynny yw, ai clywed caneuon pop cyfarwydd mewn cyd-destun cerddorol anghyfarwydd a oedd yn gyfrifol am lwyddiant y noson, neu a oedd o mor syml â newydd-deb clywed ein prif fandiau mewn lleoliad anghyfarwydd? Ydach chi’n cofio’r coctel neis ’na gafoch chi ar eich gwyliau unwaith? Ai’r cynhwysion ydach chi’n ei gofio neu lle oeddach chi’n ei yfed o a’r teimlad a gawsoch chi wedyn?
Cyfuniad o’r cwbl ydi’r ateb am wn i. A dyna pam y bydd yna alw am rywbeth tebyg yn flynyddol rŵan siŵr o fod, a honno fydd y sialens fawr i’r Eisteddfod. Dwi’n siŵr y byddan nhw’n awyddus i gynnal noson debyg i apelio at gynulleidfa fengach ym Môn eto’r flwyddyn nesaf. Ond er llwyddiant eleni, wneith ail-bobiad o rywbeth tebyg ddim gweithio. Rhaid fydd iddynt ddangos yr un gwreiddioldeb eto, ond mae gen i bob ffydd.
O ia, un peth arall, oes rhaid canu Mae Hen Wlad Fy Nhadau ar ddiwedd bob dim wedi mynd? Peidiwch â ’nghamddeall i, dwi wrth fy modd efo hi ac yn ei chanu hi mor angerddol â neb bob tro, ond dwi’n teimlo’n ddiweddar na alla’i fynd am gachiad hyd yn oed heb ganu’r anthem genedlaethol cyn tynnu’r tsiaen.
Ond os oedd un gig yn galw am y fath ddiweddglo, noson tops off yn y Paf oedd hi am wn i.
Gwilym Dwyfor