Sypreis bach neis iawn oedd cael ar ddeall ddoe bod albwm newydd Plyci yn cael ei ryddhau heddiw!
Plyci ydy prosiect electroneg yr artist Gerallt Ruggiero, a ddaw yn wreiddiol o’r Rhyl ond sydd bellach yn byw yn Nottingham.
Mae Plyci wedi bod o gwmpas ers rhai blynyddoedd bellach, ac wedi rhyddhau 3 EP cyn hyn, sef Flump a ryddhawyd ar label Peski yn 2012, Mwgwd a ryddhawyd hefyd ar label Peski yn 2013 a Booh a ryddhawyd yn annibynnol yn 2015.
Felly, Golau Isel ydy albwm llawn cyntaf yr artist arbrofol o’r gogledd, ac o’r hyn rydan ni wedi’i glywed o’r samplyr sydd wedi ymddangos ar ei safle Soundcloud ddoe mae’n werth yr aros.
Dim ond yn ddigidol fydd yr albwm ar gael am y tro, a hynny ar safle Bandcamp Plyci.
Gwneud o dy hun
Bu Y Selar yn sgwrsio â Gerallt, gan holi mwy am y broses recordio ar gyfer ei gasgliad newydd.
“Mae wedi’i recordio adra yn fama dros y flwyddyn ddiwethaf” meddai’r cerddor amryddawn.
“Ond dwi wedi casglu a recordio synau ar gyfer yr albwm o lefydd mor bell ag India a Siapan” ychwanegodd.
“Dwi’n rhyddhau’n annibynnol, yn ddigidol yn unig, a fi ddaru wneud y gwaith celf hefyd.”
Prosiect DIY go iawn i Gerallt felly, ond nid cyfarwyddiadau Ikea sy’n gyfrifol am y darn arbennig yma o gelf – mae’n gasgliad gyda sglein.
Yn anffodus, does dim cynlluniau am gig lansio ar gyfer yr albwm ar hyn o bryd, ond mae ‘na reswm da am hynny yn ôl Gerallt….
“Dwi heb weithio allan sut ddiawl dwi am gigio’r record yma eto – dyna’r step nesaf!”
Gallwch lawr lwytho Golau Isel ar safle Bandcamp Plyci nawr.