Mae newyddion cyffrous o’r Gogledd gwyllt wedi cyrraedd clustiau Y Selar, sef addewid o albwm newydd gan Mr Huw erbyn y Nadolig.
A fel hen ffrind i’r Selar, mae Mr Huw, sef Huw Owen i ddefnyddio’i enw bedydd, wedi bod yn sgwrsio gyda ni, gan ddatgelu mwy am ei gynlluniau.
Yn ôl Huw, enw’r albwm ydy Gwna Dy Feddwl i Lawr, ac fe fydd yn cael ei ryddhau ar label Recordiau Cae Gwyn.
Bydd yn cael ei lansio mewn gig yn Neuadd Ogwen, Bethesda ar nos Wener 25 Tachwedd.
“Mae hi dipyn yn wahanol o ran arddull i’r Ep Du Llun, a Cariad Afiach” meddai Huw am y record newydd.
“Tydi’r sŵn byw oedd ar y ddwy cynt ddim yno y tro hyn.”
Bydd yr albwm yn cynnwys 11 o ganeuon, ac yn cael ei ryddhau fel lawr lwythiad.
Ond fyddai’r un record Mr Huw yn gyflawn heb gynllun gweladwy diddorol, ac mae’r cyn fasydd Kentucky AFC wedi datgelu y bydd CD nifer cyfyngedig yn cael ei ryddhau hefyd, gydag 13 o ganeuon a gwaith celf unigryw.
Bydd adolygiad o’r albwm newydd yn rhifyn nesaf Y Selar sydd allan fis Tachwedd.