Mae’r rhestr fer ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig (Welsh Music Prize) wedi’i chyhoeddi, ac mae ‘na gynrychiolaeth Gymraeg gref ar y rhestr eleni.
Syniad y cyflwynydd radio Huw Stephens, a’i gyfaill yr hyrwyddwr John Rostron, ydy’r wobr sy’n cael ei dyfarnu i’r albwm gorau gan artist o Gymru ers 2010-11, pan enillodd albwm Gruff Rhys, Hotel Shampoo, y wobr gyntaf. Mae cysylltiadau agos rhwng y wobr a Gŵyl Sŵn sy’n cael ei threfnu gan y ddeuawd.
Mae mwy o recordiau Cymraeg ar y rhestr eleni nag erioed gydag albwm gyntaf Sŵnami, albwm unigol cyntaf Alun Gaffey, Porwr Trallod gan Datblygu, Tir a Golau gan Plu ac Anian gan 9Bach i gyd wedi eu cynnwys ar y rhestr fer o 12.
Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan banel o feirniaid sy’n weithgar yn y diwydiant cerddoriaeth Cymreig, a bydd y cyhoeddiad mewn noson arbennig yn The Depot yng Nghaerdydd ar nos Iau 24 Tachwedd.
Enillwyd y wobr gan albwm Gymraeg am y tro cyntaf llynedd, sef Y Dydd Olaf gan Gwenno. Joanna Gruesome (2013-14), Georgia Ruth Williams (2012-13) a Future of The Left (2011-12) ydy’r cyn enillwyr eraill.
Mae cwpl o enwau eraill cyfarwydd i’r rhai sy’n dilyn y sin Gymraeg ar y rhestr eleni sef Cate Le Bon, gynt o Alcatraz, a sy’n dal i ganu rhywfaint yn y Gymraeg, a hefyd Meilyr Jones – cyn ffryntman Radio Luxemburg / Race Horses. Bydd yn frwydr ddiddorol rhwng Meilyr a’i gyfaill, y cyn aelod arall o Race Horses, Alun Gaffey!
Rhestr fer lawn Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig
9Bach – Anian
Alun Gaffey – Alun Gaffey
Cate Le Bon – Crab Day
Climbing Trees – Borders
Datblygu – Porwr Trallod
Meilyr Jones – 2013
Plu – Tir A Golau
Right Hand Left Hand – Right Hand Left Hand
Simon Love – It Seemed Like A Good Idea At The Time
Skindred – Volume
Sŵnami – Sŵnami
The Anchoress – Confessions Of A Romance Novelist