Mae Kizzy Crawford wedi gwneud apêl i bobl ei helpu i ddod o hyd i’w gitâr sydd wedi’i golli yn ardal Merthyr Mawr.
Trydarodd y gantores ei hapêl yn gynharach heddiw, gan ddweud bod y gitâr ‘Martin’ wedi ei gymeryd neu ei ddwyn yn ardal Merthyr Mawr ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Collwyd y gitâr wrth i Kizzy ffilmio fideo cerddoriaeth, ac mae’n apelio ar gymaint o bobl â phosib i’w helpu i ddod o hyd i’r gitâr trwy ail-drydar a rhannu’r wybodaeth, gan rannu’r llun isod.
Cysylltwch â’r Selar os oes ganddoch chi unrhyw wybodaeth ac fe wnawn ni gysylltu â Kizzy.