Mae’r grŵp roc amgen syrffiog o’r Gorllewin, Argrph, wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau eu sengl newydd, ‘Tywod’, ar 14 Hydref.
Fe ddylai Argrph fod yn gyfarwydd i ddarllenwyr Y Selar gan eu bod nhw wedi rhyddhau eu sengl gyntaf, ‘Neb yn Cofio’, fel rhan o gynllun Clwb Senglau’r Selar yn gynharach eleni.
Prosiect Emyr Sion Taylor ydy Argrph ond mae wedi galw ar gymorth cyfeillion – Llŷr Pari (allweddellau/offerynnau taro), Geth Davies (dryms) a George Amor (bas) wrth recordio’r sengl newydd.
Recordiwyd y sengl yn stiwdio Llŷr Pari yng Nghapel Garmon, ac yntau sydd wedi cynhyrchu’r trac yn y stiwdio.
Syrff, Scorsese a T.S. Eliot
Mae sŵn breuddwydiol gyda dylanwadau syrff amlwg i gerddoriaeth Argrph, er bod ‘Tywod’ bach yn fwy popi a bywiog na rhai o ganeuon eraill y grŵp hyd yma.
Ymysg dylanwadau Emyr mae gwaith sain sinematig ffilmiau Martin Scorsese a Quentin Tarantino, yn ogystal â llenyddiaeth T.S. Eliot. Mae tref glan môr Aberystwyth hefyd yn ysbrydoliaeth iddo, er, dydan ni ddim yn hollol siŵr bod yr hynny o dywod sydd ar draeth Aber yn ddigon o ysbrydoliaeth ar gyfer sengl newydd Argrph!
Mae’r sengl yn cael ei rhyddhau ar 14 Hydref fel y gyntaf o gasgliad o senglau i’w lawr lwytho’n rhad ac am ddim i nodi lansiad y label recordiau newydd Decidedly Records. Bydd senglau gan Adwaith a Hotel De Salto yn dilyn yn fuan.
Mae label Decidedly wedi dweud wrth Y Selar eu bod nhw’n dechrau cynnal gigs rheolaidd yn y GwdiHw yng Nghaerdydd bob yn ail fis, gyda’r cyntaf ar 18 Hydref yn gig lansio i sengl Argrph. Bydd Mellt ac Adwaith hefyd yn perfformio ar y noson.