Ddiwedd yr wythnos hon bydd y canwr-gyfansoddwr dawnus o Gaerdydd, Aled Rheon, yn rhyddhau ei ail EP, A Gorgeous Charge, gyda gig arbennig yn Chapter Caerdydd.
Mae’r casgliad byr newydd yn dilyn ei record gyntaf, Sêr yn Disgyn, a ryddhawyd nôl yn 2013 ac mae’n hen bryd i ni weld cynnyrch newydd gan Aled.
Bu’r Selar yn sgwrsio â’r cerddor yn ddiweddar, gan holi pam bod 3 blynedd wedi mynd heibio cyn iddo fentro nôl i’r stiwdio.
“Nes i benderfynu canolbwyntio ar chwarae’n fyw wedi rhyddhau ‘Sêr yn Disgyn’ yn 2013 ac erbyn dechrau 2015 roeddwn i’n teimlo fod e’n hen bryd dychwelyd i’r stiwdio eto” meddai Aled.
“Felly naethon ni recordio dros gyfnod o ryw flwyddyn – yn jyglo prosiect Gorwelion a chael babi!”
Er tegwch felly mae digon wedi bod ar blât Aled yn y cyfnod diwethaf, ond mae’n dda gweld ei fod wedi cael cyfle i recordio’r bump cân sydd ar yr EP yng nghanol y cyfan.
Cyfforddus
Mae’r casgliad wedi’i recordio yn stiwdio Seindon yng Nghaerdydd dan oruchwyliaeth Osian Gwynedd – yr un fformiwla a ddefnyddiwyd ar gyfer ei EP cyntaf. Y gwahaniaeth amlwg rhwng y ddau gasgliad ydy iaith y caneuon, gyda mwyafrif caneuon Sêr yn Disgyn yn Gymraeg, tra bod pedair o’r bump cân ar A Gorgeous Charge yn Saesneg.
“Gan fod Ser yn Disgyn yn Gymraeg nes i benderfynu recordio deunydd Saesneg yn bennaf y tro hwn, gan mai artist dwyieithog ydw i” eglura Aled.
“Ond mae un gân Gymraeg, ‘Hawdd’, ar y record. Mae’r gân am y teimlad o fod yn gwbl gyfforddus yng nghwmni rhywun arall gan neud i fywyd a symudiad amser deimlo’n hawdd.”
Ac mae’n amlwg o siarad gydag Aled ei fod yntau’n gyfforddus iawn yng nghwmni y cerddorion sydd wedi gweithio ar y casgliad newydd…
“Roeddwn yn lwcus iawn cael gweithio gyda cherddorion gwych ar yr EP – Osian Gwynedd ei hun yn chwarae piano, James Bennetts [Climbing Trees] ar y dryms, Dan ‘Flos’ Lawrence ar gitâr drydan, a llais hyfryd Eve Goodman yn y cefndir.”
Grŵp gorjŷs
Bydd llawer o ddarllenwyr yn gyfarwydd â gweld Aled ar ben ei hun gyda’i gitâr ar lwyfan, ond dros y flwyddyn ddiwethaf mae fformat ei berfformiadau byw wedi newid hefyd.
“Dwi wedi dechrau chwarae gyda fy mand ‘The Gorgeous Charge’ yn 2015 hefyd ac mae rhannu llwyfan yn sicr yn newid y ffordd dda chi’n chwarae a gweld y caneuon. Roedd yn sicr gen i syniad o’r sain yr oeddwn yn chwilio amdano y tro hwn wrth ddychwelyd i’r stiwdio – ro’n i am adael i’r caneuon anadlu a swnio’n llawn a mwy organig y tro yma a dwi’n bles iawn gyda’r caneuon gorffenedig.”
Er bod mwyafrif traciau’r EP newydd yn Saesneg, mae Aled yn dal i ysgrifennu a pherfformio yn y Gymraeg hefyd.
“Dwi wrth gwrs yn cario ‘mlaen i ysgrifennu yn y Gymraeg – alla i ddim dweud yn union beth sydd nesaf eto ond dwi’n sicr yn gobeithio recordio’r caneuon hyn yn y dyfodol. Am y tro dwi’n bwriadu gigio a chwarae’r EP newydd.”
Mae modd prynu fersiwn digidol yr EP newydd ar Bandcamp Aled Rheon eisoes, ond bydd y lansiad swyddogol yn cael ei gynnal yn y Chapter, Caerdydd ar nos Wener 25 Tachwedd, gyda’r band llawn yn perfformio gydag Aled, ynghyd ag “ambell sypreis” yn ôl y cerddor.