Cerddoriaeth llwyfan perfformio Eisteddfod yr Urdd

Am y bumed flwyddyn yn olynol, mae’r Selar yn falch iawn i gydweithio ag Eisteddfod yr Urdd i drefnu arlwy cerddoriaeth gyfoes ar y maes yn Y Fflint eleni.

Dechreuodd Y Selar drefnu artistiaid ar gyfer llwyfan perfformio’r Eisteddfod yn Abertawe 2011, gyda dim ond dau artisti cyfoes yn perfformio bryd hynny. Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer yr artistiaid wedi cynyddu’n raddol ac eleni bydd 27 o fandiau ac artistiaid unigol cyfoes yn perfformio ar y maes.

Yn ogystal â’r prif lwyfan perfformio, bydd modd dal setiau acwstig ar lwyfan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ar lwyfan acwstig Pentre Mr Urdd ac ar lwyfan ardal newydd Y Cwtsh.

Mae’r lein-yp yn ystod yr wythnos yn cynnwys amrywiaeth eang o artistiaid o grwpiau sefydledig fel Yr Eira a Plu i artistiaid ifanc addawol fel Alffa a Magi Tudur.

Ar ddydd Gwener 3 Mehefin byddwn yn dathlu Diwrnod Cerddoriaeth y BBC trwy gydweithio â Grwelion i lwyfannu nifer o artistiaid y cynllun eleni.

Am y tro cyntaf erioed eleni hefyd mae Bwrdd Syr IfanC yn cynnal gig mawreddog ar y nos Sadwrn i gloi’r wythnos gyda thri o fandiau gorau’r sin ar hyn o bryd yn perfformio – Candelas, Y Bandana a Mellt.

Lein-yp llawn:

Llun 30 Mai

Llwyfan Perfformio

14:00 – Brigyn

15:00 – Plu (set Holl Anifeiliaid y Goedwig)

Llwyfan Coleg Cymraeg Cenedlaethol

13:00 – Plu

Pentre Mr Urdd

15:00 – Brigyn

Mawrth 31 Mai

Llwyfan Perfformio

12:00 – Cordia

14:00 – Fi a Fo

15:00 – Adwaith

16:00 – Beth Celyn

Llwyfan Coleg Cymraeg Cenedlaethol

13:00 – Cordia

Mercher 1 Mehefin

Llwyfan Perfformio

12:00 – Gildas

14:00 – Omaloma

15:00 – Henebion

Llwyfan Coleg Cymraeg Cenedlaethol

13:00 – Henebion

Pentre Mr Urdd

15:00 – Magi Tudur

Y Cwtsh

15:30 – Gildas

Iau 2 Mehefin

Llwyfan Perfformio

12:00 – Alun Tan Lan

13:00 – Y Trŵbz

14:00 – Yr Eira

15:00 – Enillwyr ‘Pwy Geith y Gig’

16:00 – Magi Tudur

Llwyfan Coleg Cymraeg Cenedlaethol

13:00 – Yr Eira

Pentre Mr Urdd

15:00 – Alun Tan Lan

Gwener 3 Mehefin

Llwyfan Perfformio

11:00 – Roughion

12:00 – Raffdam

13:00 – Danielle Lewis

14:00 – Aled Rheon

15:00 – Ysgol Sul

16:00 – Fleur de Lys

Llwyfan Coleg Cymraeg Cenedlaethol

13:00 – Ysgol Sul

Pentre Mr Urdd

15:00 – Aled Rheon

Y Cwtsh

15:30 – Fleur de Lys

Sadwrn 4 Mehefin

Llwyfan Perfformio

12:00 – Alffa

13:00 – Chwalfa

14:00 – Uumar

15:00 – Y Cledrau

16:00 – CaSTleS

Llwyfan Coleg Cymraeg Cenedlaethol

13:00 – Y Cledrau

Pentre Mr Urdd

15:00 – Uumar

Y Cwtsh

15:30 – Chwalfa

Gig i Gloi yr Eisteddfod

Bwrdd Syr IfanC yn cyflwyno…

Candelas / Y Bandana / Mellt

Gig i Gloi'r Eisteddfod