Un o’r grwpiau newydd sydd wedi dal y sylw’n fwy na neb yn ystod 2016 ydy’r grŵp tri rhan o’r Cymoedd, Chroma.
Daeth y band roc amgen trwm i’r brig yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau’r Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni, ac maent wedi bod yn brysur ers hynny’n gigio’n rheolaidd ers hynny yn ogystal â rhyddhau eu EP cyntaf.
Ac maen nhw’n coroni blwyddyn gofiadwy trwy ryddhau sengl newydd, ond a hithau wedi bod yn flwyddyn mor llwyddiannus i’r grŵp ifanc, bydd nifer yn holi pam yn y byd maen nhw’n rhyddhau trac o’r enw ‘Claddu 2016’?
“Mae ‘Claddu 2016’ am ragrith pobl Cymreig wnaeth bleidleisio i adael yr undeb Ewropeaidd” eglura drymiwr Chroma, Zac wrth Y Selar.
“Rydym wedi’n synnu gan agwedd cras lawer o bobl ein hardal ni [y Cymoedd] tuag at yr Undeb Ewropeaidd. Yn enwedig, os ydych chi’n ystyried mai arian Ewropeaidd sydd wedi adfywio’r ardal ar ôl dirwasgiad cau’r pyllau glo.”
“Teimlo ydyn ni bod yr ymgyrch ‘Leave’ wedi cymryd mantais o ddiffyg gwybodaeth pobl yr ardal, a’u darbwyllo i gredu fod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn mynd i ddiwygio diwydiant yn y Cymoedd. Mae ‘Claddu 2016’ yn ceisio rhoi llais i’r bobl ifanc, sy’n mynd i orfod talu am benderfyniad y genhedlaeth baby boom am weddill ei bywydau.”
Trac sydd â neges wleidyddol gref felly, ac mewn cyfnod ble mae llawer o genhedlaeth yr hyn a elwir gan rai yn ‘oes aur canu pop Cymraeg’ yn honni nad yw cerddorion Cymraeg yn wleidyddol bellach, mae’n agwedd i’w groesawu gan grŵp ifanc.
“Rydyn ni’n hoffi bod yn feiddgar gydag ein cerddoriaeth, mae ‘Claddu2016’ yn llythrennol yn mynegi sut rydyn ni’n teimlo am y flwyddyn” ychwanega Zac.
“Mae Claddu 2016 am ragrith. O etholiad Trump i Brexit, yr unig beth sy’n sicr ydy fod pobl yn rhoi bai ar bobl fwyaf bregus ein cymdeithas. Mae bandiau gwleidyddol fel Rage Against The Machine yn ysbrydoliaeth fawr i’r trac yma.”
“Yn ogystal roedd hen fandiau Cymraeg fel Datblygu a Geraint Jarman wedi ysbrydoli ni. Rydyn ni’n hoffi ysgrifennu caneuon gyda greddf angerddol, os yw hynny’n nwyd gwleidyddol neu Katie yn bitchio am ex hi. Mae’n rhaid i rywbeth yrru ein caneuon.”
Creu gyda chryndod
Mae’r sengl newydd yn goron ar flwyddyn a hanner i Chroma, wrth i’r grŵp fynd o nerth i nerth gan ddenu cefnogaeth o sawl cyfeiriad.
Recordiwyd y sengl gyda chwmni Sound Quake, sy’n gyfarwydd iawn i’r grŵp.
“Fe wnaethon ni defnyddio arian o Radio Cymru a Brwydr y Bandiau i recordio’r gân gyda Sound Quake. Rydyn ni’n lwcus iawn i gael perthynas agos gydag ein cynhyrchwyr, ac rydym ni’n hapus iawn gyda beth rydyn ni wedi creu.”
Cwmni sy’n cael ei redeg gan Sam Jump a Sam Turner Sound Quake a nhw oedd yn gyfrifol am gynhyrchu EP cyntaf Chroma.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen gweithio gyda nhw eto ar ein hail EP” meddai Zac.
“Bydd Sound Quake yn recordio ein set fyw ar y 29 o Ragfyr yng Nghlwb Ifor Bach hefyd. Maen nhw hefyd yn creu cerddoriaeth ei hun o dan enw Fair Ones. Maen nhw’n wych! Rydym ni wedi nabod Sound Quake ers blynyddoedd ac â pherthynas cryf gyda nhw.”
Ennill y Frwydr
Mae’n debyg mai trwy ennill Brwydr y Bandiau yn y Steddfod y daeth Chroma i sylw llawer o bobl, ac o sgwrsio gyda Zac mae’n amlwg bod y gystadleuaeth yn arwyddocaol iddyn nhw.
“Mae ennill Brwydr Y Bandiau wedi bod yn hwb anferthol i ni. Roedd y gystadleuaeth o safon uchel iawn eleni, oedd e’n gymaint o sioc i ni ennill. Roedd y broses o wneud Brwydr y Bandiau yn help i ni ddatblygu fel band ac fe wnaeth y wobr o £1000, sesiwn Ochr 1 a sesiwn Radio Cymru agor cymaint o ddrysau.”
Fe lansiwyd cystadleuaeth 2017 yn ddiweddar, gyda’r dyddiad cau i rai sydd am gystadlu ar 3 Chwefror. Mae Zac yn sicr o’r farn ei bod yn werth i artistiaid newydd gofrestru.
“Byddwn i 100% yn annog unrhyw un i drio am Brwydr Y Bandiau.”
“Ers i ni ennill, mae ein cerddoriaeth wedi cael ei ‘whare ar y radio yn aml, ac rydyn ni hefyd wedi ein henwebu am Record Fer Orau a Band Newydd Gorau Gwobrau Selar, sy’n cwympo ar ben-blwydd 21 oed Katie!”
Fe wnaethon ni hefyd gwrdd â chymaint o bobl anhygoel yn ystod y broses.”
EP cyntaf allan yn barod, a sengl newydd ar ddiwedd blwyddyn gofiadwy…tybed oes gobaith am albwm cyntaf gan Chroma yn 2017 i gwblhau’r set?
“Ar hyn o bryd ni’n ysgrifennu EP newydd – ry’n ni’n gyffrous i fynd nôl i stiwdio Giant Wafer rhywbryd yn y flwyddyn newydd.”
“Roeddwn ni’n falch o ennill arian Gorwelion ‘Launchpad’, sy’n mynd i gefnogi ein cerddoriaeth newydd, ac ar hyn o bryd rydyn ni’n mwynhau chwarae gigs ac ysgrifennu cerddoriaeth newydd.”
Ond cyn i’r flwyddyn ddod i ben mae gan Chroma un cyfle arall i gladdu 2016 mewn steil, gyda gig yng Nghlwb Ifor Bach ar 29 Rhagfyr.
“Rydym ni wedi cael blwyddyn anhygoel fel band ac y gig ar 29ain ydy’r ffordd orau i ddweud diolch wrth bawb wnaeth ein cefnogi ni.”
“Bydd gyda ni griw sain a chamera yno i ddogfennu’r noson ac mae gyda ni gwpl o syniadau ynglŷn â sut i greu gig i’w gofio. Gobeithio bydd y gig yn ddihangfa i bobl sydd jyst am fwynhau ac anghofio am bullshit y byd am bach.”
Mae modd prynu sengl newydd Chroma, ‘Claddu 2016, ar iTunes nawr.