Mae newyddion gwych wedi cyrraedd clustiau Y Selar – mae’r cerddor electroneg seicadelig gwych o Ddinbych, R. Seiliog wedi rhyddhau ei sengl newydd ‘Cloddio Unterdach’ heddiw, 12 Hydref.
Mae’r sengl ar gael i’w lawr lwytho ar lwyfannau digidol o heddiw ymlaen, ac yn damaid i aros pryd nes bydd R. Seiliog, neu Robin Edwards i ddefnyddio ei enw pasport, yn rhyddhau eu EP newydd, Shedhead, ar 18 Tachwedd.
Rydan ni’n hoff iawn o sengl ‘Cloddio Unterdach’, ac mae’n ddatblygiad pellach o’r sŵn dyfodolaidd unigryw mae R. Seiliog yn llwyddo i’w greu.
Dyma hi i chi gael clywed dros eich hunain:
Casgliad amrywiol
Mae’r sengl, a’r EP, unwaith eto yn cael ei ryddhau gan label cynhyrchiol Turnstile Music yng Nghaerdydd.
Bydd 5 trac ar yr casgliad sydd allan fis nesaf, ac yn ôl Robin maen nhw’n ganeuon digon amrywiol
“Mae ‘na rywbeth i bawb, un gyflym, un araf, un hapus, un drist – ac un arall.
Shedhead fydd y record ddiweddaraf gan yr artist amgen i Beniel, ger Dinbych gan ddilyn ei EP cyntaf, Shuffles, yn 2012; ei albwm cyntaf, Doppler, yn 2013; ac yna ei ail albwm ardderchog, In Hz, a ryddhawyd yn 2014.
Mae Manic Street Preachers yn ffan o waith R. Seiliog, cymaint felly nes gofyn iddo wneud ail-gymysgiad o’u sengl ‘Futurology.
Rydan ni’n weddol siŵr bydd yr EP newydd yn werth aros amdano, ond yn y cyfamser beth am i chi fwynhau ‘Cloddio Unterdach’:
Cofiwch bod R. Seiliog yn perfformio fel rhan o daith Make Noise sy’n dechrau nos Wener yma, ac yn ymweld â’r lleoliadau canlynol…
14 Hydref – Y Parot, Caerfyrddin
21 Hydref – Le Pub, Casnewydd
22 Hydref – Gŵyl Sŵn, Caerdydd
12 Tachwedd – Rummers, Aberystwyth
25 Tachwedd – Clwb Y Bont, Pontypridd