Cychwyn Taith Make Noise Cymru

Mae’r penwythnos hwn yn nodi dechrau taith gerddorol go arbennig ‘Make Noise’ yng Nghymru.

Fe fydd y daith, sy’n cael ei threfnu’n rhannol gan griw gigs Nyth yn ymweld â Chasnewydd, Caerdydd, Aberystwyth a Phontypridd dros y chwe wythnos nesaf, gan ddechrau yn y Parot yng Nghaerfyrddin nos Wener yma.

Mae cysyniad reit ddiddorol i’r gigs sy’n rhoi llwyfan i gerddoriaeth electronig flaengar, gan fod mynediad yn rhad ac am ddim i bawb sydd dod â darn o offer trydanol i’w ailgylchu gyda nhw i’r gigs.

Ie wir, os ddewch chi â hen ffôn symudol, sychwr gwallt, gliniadur, fflach lamp neu unrhyw beth gyda phlwg neu fatri i ddrws i bob pwrpas, i ddrws un o’r gigs fe gewch fynd mewn yn ddi-dâl!

Cyn i chi ddechrau cael amheuon ynglŷn â safon y gerddoriaeth sydd ar gynnig mewn gig am ddim, gadewch i ni eich sicrhau bod yna artistiaid o’r safon uchaf ar y daith ar ffurf y grŵp seicadelig o Lerpwl, Stealing Sheep, ac artist electronig o gyrion Dinbych, R.Seiliog.

Fe wnaethon ni gyhoeddi’r newyddion bod sengl newydd R. Seiliog wedi’i ryddhau ddoe, i gyd-fynd â dechrau’r daith, a bydd y gŵr o Beniel yn rhyddhau ei EP newydd ar 18 Tachwedd.

Bydd cefnogaeth leol i’r ddau brif fand hefyd.

Cefndir Make Noise

Dechreuodd Make Noise yn 2010 fel partneriaeth unigryw rhwng ERP (Llwyfan Ailgylchu Ewropeaidd) a Recordiadau Heavenly. Mae’r prosiect wedi teithio ar draws y wlad yn hyrwyddo pwysigrwydd ailgylchu offer gwastraff trydanol ac electronig i bobl ifanc rhwng 18-25 oed gyda help gan DJs a chynhyrchwyr gorau’r DU.

Y llynedd, fe drefnwyd dau gig llwyddiannus yn yr Alban ond ar gyfer y bennod Gymreig newydd hon, mae hyrwyddwyr cerddoriaeth Nyth a sefydliad Cymru Effeithlon hefyd yn bartneriaid yn y prosiect.

Mae’n debyg bod Nyth wedi dod i gysylltiad â’r prosiect diolch i’r DJ Huw Stephens, a bydd rhai ohonoch chi’n cofio gig ar y cyd rhwng Make Noise a chriw Nyth yn nhafarn y Greeks ym Mangor yn 2014.

“Mae hi’n gyffrous iawn bod yn rhan o daith Make Noise unwaith eto eleni” meddai Ciron Gruffydd, sy’n un o griw Nyth.

“Fe gafon ni gig lansio llwyddiannus iawn yng Nghaerdydd ddechrau’r haf pan ddaeth un person â hŵfyr wedi malu, hyd yn oed, i’w ailgylchu.”

“Mae gallu cydweithio gyda Heavenly ac ERP yn wych ond mae gwneud hynny wrth godi ymwybyddiaeth o achos pwysig fel hwn yn well fyth.”

Dyma restr lawn gigs Taith Make Noise Cymru

Gwener 14 Hydref – Y Parot, Caerfyrddin

Gwener 21 Hydref – Le Pub, Casnewydd

Sadwrn 22 Hydref – Gwdihŵ, Caerdydd (Gŵyl Sŵn)

Sul 23 Hydref – O’Neills, Caerdydd (Gŵyl Sŵn)

Sadwrn 12 Tachwedd – Rummers, Aberystwyth

Gwener 25 Tachwedd – Clwb Y Bont, Pontypridd