Mae Carwyn Ellis yn un o’r cerddorion mwyaf talentog, ond diymhongar i ddod o Gymru dros y blynyddoedd diwethaf.
I ni, mae’n fwyaf cyfarwydd fel ffryntman y grŵp pop amgen gwych Colorama. Mae hefyd yn gerddor sesiwn llwyddiannus sy’n chwarae’n rheolaidd gydag Edwyn Collins ymysg eraill, a hefyd wedi gweld llwyddiant gyda’i brosiect unigol Zarelli oedd ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig llynedd.
Nawr mae Carwyn yn paratoi i lansio ei brosiect diweddaraf, Bendith, ble mae’n cydweithio â’r triawd o’r un teulu – Elan, Marged a Gwilym Plu.
Mae albwm y prosiect bach difyr yma, sy’n cael ei adolygu yn rhifyn diweddaraf Y Selar, allan ar 7 Hydref a bydd cyfres o gigs i hyrwyddo’r record newydd o gwmpas y cyfnod hwnnw. Wedi dweud hynny, mae’r albwm eisoes ar gael i rai gan fod Bendith wedi penderfynu dosbarthu’r CD i siopau lleol bythefnos cyn ei ryddhau’n swyddogol.
Roedd hyn yn le da i ddechrau wrth i’r Selar sgwrsio â Carwyn wythnos diwethaf…
“Ma’r byd tamed bach yn shrunken nawr, mae’n ddigon hawdd prynu heb adael y tŷ” medd Carwyn yn ei lais ysgafn a hamddenol cyfarwydd.
“Mae siopau bach wedi cefnogi ni, Colorama a Plu, dros y blynyddoedd, a dwi’n hoffi mynd iddyn nhw. Odden ni eisiau annog pobl i beidio anghofio bod y siopau yna – maen nhw’n cymryd risg yn stocio’n stwff ni, felly ni’n gorfod helpu’n gilydd.”
Dros yr wythnos diwethaf mae cyfrifon trydar Colorama a Plu wedi bod yn hyrwyddo’r ffaith bod yr albwm ar gael i’w brynu mewn siopau lleol gan gynnwys siopau llyfrau Cymraeg a siopau recordiau fel Spillers yng Nghaerdydd ac Andy’s yn Aberystwyth. Bydd y record ar gael i’w phrynu mewn siopau eraill, ac ar-lein o 7 Hydref ymlaen.
Plethu gyda Plu
Mae’r berthynas newydd rhwng Carwyn a Plu yn un digon dealladwy – hawdd gweld sut mae modd i ddawn gyfansoddi arbennig Carwyn blethu’n brydferth gyda harmonïau lleisiol nodweddiadol Plu. Ond mae gen i ddiddordeb mewn gwybod sut ddaeth y berthynas i fod yn y lle cyntaf…
“Y tro cyntaf weles i nhw oedd wrth i ni wneud Stiwdio Gefn [cyfres S4C] gyda nhw rai blynyddoedd yn ôl, felly mae’r diolch i Cleif Harpwood am roi ni yn yr un ‘stafell” eglura Carwyn.
“O’n i’n meddwl bod nhw’n ffantastic.”
“Ro’n i ishe gweithio gyda lleisiau, a grŵp lleisiol, gweithio gyda harmonïau. Maen nhw mor dda i weithio gyda nhw. Maen nhw mor dalentog, ac mor gryf fel unigolion – maen nhw jyst yn pigo pethe lan a gallu jyst gwneud pethe’n syth.”
“Fi wedi bod yn cyfansoddi mwy o ganeuon i bobl eraill ganu’n ddiweddar, a chael cic go iawn mas o hynny, yn enwedig rhywun sydd gyda llais fel Elan neu Marged. Odden ni’n llythrennol jyst yn eistedd gyda’n gilydd, yn pwyso record ac odd e jyst yn digwydd.”
Eglura Carwyn bod yr albwm fwy neu lai wedi’i recordio’n hollol fyw yn bennaf yn stiwdio Acapela, “nethon ni jyst ychwanegu bach o strings ac ati wedyn.”
A heb os mae’r sŵn byw, naturiol yna i’w deimlo ar yr albwm ac yn cyfrannu at y naws gynnes a chartrefol.
Gwreiddiau
Er wedi’i greu’n naturiol, nid damwain ydy naws cartrefol y casgliad yma, daw hynny’n glir wrth i Carwyn drafod dylanwadau’r albwm. Er bod Bendith yn brosiect newydd, dwi’n awgrymu bod adlais o beth o waith Colorama ar yr albwm, yn enwedig efallai un o’u caneuon amlycaf, ‘Dere Mewn’…
“Nes i ‘sgrifennu ‘Dere Mewn’ i mam-gu, ond buodd hi farw gwpl o flynyddoedd ar ôl hynny. Nes i golli’r ddwy fam-gu, a tad-cu yn agos at ei gilydd, ac ar ôl hynny bues i’n meddwl lot am y teimlad yna o golli gwreiddiau.”
Ac mae’r gwreiddiau teuluol yma glir ar yr albwm.
“Danybanc [trydydd trac y casgliad] oedd enw tŷ mam-gu, a Dinas [y trac agoriadol] oedd enw’r cwm ble’r oedd y tŷ – dyma beth sydd ar y clawr, lluniau o’r cwm. Ro’dd fferm, a melin ble’r oedd dau wncwl i mi’n gweithio.”
Roedd Carwyn, a symudodd cartref yn rheolaidd yn ei ieuenctid, yn ymwelydd rheolaidd â’r ardal yma ger Trelech yn Sir Gaerfyrddin, ac yn amlwg yn meddwl y byd o’r lle. Ond mae’r albwm yn cynnwys cyfeiriad at gartref ochr arall ei deulu yn y trac offerynnol prydferth sy’n hollti’r casgliad yn y canol.
“Ffynonlefrith oedd enw’r fferm ble’r oedd fy mam-gu arall, ar ochr dad yn byw ger Llangrannog.”
“Ydi, mae’n albwm personol iawn i mi, ac i Plu hefyd gyda chaneuon fel ‘Dan Glo’”
Breuddwyd plentyn
Agwedd sy’n cyfrannu’n helaeth at gynhesrwydd y record, ac yn ein helpu ni i weld darlun o atgofion plentyndod Carwyn o’r lle arbennig yma ydy gwaith celf yr albwm sy’n dod ar ffurf clawr gatefold 4 rhan.
“Mae’r gwaith celf wedi’i greu gan Asami Fukuda o Tokyo, sy’n ffan mawr o Colorama a cherddoriaeth Gymraeg yn gyffredinol. Mae hi’n gwneud darluniau olew o ffotos, ac mae’r tebygrwydd yn ei lluniau’n anhygoel, weithiau mae’r paentiad yn well na’r llun gwreiddiol.”
“Nes i fynd i sefyll yng nghanol y cwm [Dinas] a thynnu ffoto panoramic o’r lle i gyd…ac odd ffoto fi’n shit i ddweud y gwir. Nes i ‘weud wrthi feddwl am y lle yn yr haf, trwy lygaid plentyn chwech oed. Felly rhyw ddarlun breuddwydiol ydy’r gwaith celf.”
Heb os mae’r canlyniad yn drawiadol, ac yn ategiad addas i deimlad breuddwydiol y caneuon.
Mwy o Bendith?
Wrth i Carwyn drafod Bendith, mae’n gwbl amlwg bod hwn yn brosiect pwysig iddo, a’i fod yn falch iawn o’r canlyniad. Er bod y berthynas rhyngddo a Plu yn gweithio mor naturiol, mae rhywun yn amau tybed ai one-off arbennig ydy’r albwm, ac na welwn ni fwy o Bendith yn y dyfodol? Mae Carwyn yn ateb yn ofalus, ond yn obeithiol,
“Mwy o Bendith? Efallai, gewn ni weld. Bydden i’n hoffi gweithio gyda nhw eto, a fi’n credu bydden nhw’n hoffi hynny hefyd, felly pwy a wŷr.”
“Ma’ Colorama ar bach o hiatus ar hyn o bryd. Mae gen i lot o stwff ar y gweill, ond fi ddim yn siŵr dan ba enw fyddan nhw eto. Ma’ gyda fi albwm acwstig wedi’i sgrifennu, a galle hwnnw fod yn Colorama neu jyst fi. Fi’n gobeithio mynd i wneud rhywfaint o stwff Zarelli, fi’n bwriadu mynd i stiwdio’n gynnar blwyddyn nesaf. Dyna fydd y peth nesaf fydda i’n recordio.”
Aiff Carwyn ymlaen i drafod taith i’r Alban gydag Edwyn Collins, a gigio gyda James Hunter Six ym mis Rhagfyr…ie, dyma chi un cerddor prysur iawn. Ond am y tro beth bynnag, Bendith sy’n cael ei sylw llawn.
Gallwch weld Bendith yn perfformio’n fyw ddechrau Hydref yn y lleoliadau canlynol:
6 Hydref – Eglwys y Drindod Sanctaidd, Salford
7 Hydref – Galeri, Caernarfon
8 Hydref – Eglwys Efengylaidd St Ioan, Treganna, Caerdydd
Manylion llawn y gigs yma a’r albwm ar wefan Bendith.
Geiriau: Owain Schiavone