Meddyliwch yn ôl i 2012. Blwyddyn a goronodd twf aruthrol Y Bandana a selio eu lle fel y prif fand cyfoes Cymraeg – roedd cipio tair o Wobrau’r Selar, gan gynnwys ‘Band Gorau’ am y drydedd flwyddyn yn olynol yn dyst o hyn.
Dilynodd ail albwm y pedwarawd, Bywyd Gwyn, ym Mehefin 2013 gan gynnig rhyw aeddfedrwydd newydd, ond yna jyst fel roeddech chi’n meddwl eu bod nhw’n mynd i goncro’r byd, aeth hi braidd yn dawel.
Do, maen nhw wedi parhau i gigio’n achlysurol gan gynnwys eu taith haf hunangynhaliol blynyddol, ac fe wnaethon nhw ryddhau sengl ‘Mari Sâl/Tafod y Tonnau’ yn 2014…ond mae dyn wedi teimlo bod yr aelodau i gyd wedi troi eu golygon at borfeydd, nid brasach efallai, ond amgen.
Rŵan, maen nhw nôl gyda thrydydd albwm stiwdio, Fel Tôn Gron, a ryddhawyd ddiwedd mis Mawrth ac roedd y basydd Sion Owens yn ddigon caredig i gynnig hanner awr o’i amser i sgwrsio â’r Selar. Y cwestiwn cyntaf amlwg oedd beth yn union mae’r Bandana wedi bod yn gwneud â’u hunain yn y tair blynedd rhwng Bywyd Gwyn ac Fel Tôn Gron?
“Mae’r band wedi bod yn brysur iawn dros y tair blynedd ddiwethaf, er nad ydan ni wedi recordio albwm” meddai Sion.
“Mae’r pedwar ohonom wedi bod yn byw mor bell ar wahân ym Manceinion, Caerdydd, Lerpwl a Bethel ond rydan ni wedi llwyddo i gigio’n rheolaidd – ddwywaith neu dair bob mis a threfnu teithiau ein hunain bob haf gan wahodd bandiau eraill i ymuno â ni.”
Felly stori ddigon cyfarwydd … grŵp yn ffurfio yn yr ysgol, cael bach o lwyddiant, yna’r aelodau’n mynd ffwrdd i goleg a phethau’n mynd ychydig yn fflat. Ond er tegwch i’r Bandana maen nhw wedi llwyddo i gynnal peth momentwm dros y cyfnod yna, ac er bod yr aelodau eraill yn arbrofi gyda phrosiectau eraill, does dim awgrym wedi bod y byddan nhw’n chwalu. I’r gwrthwyneb mewn gwirionedd…
“Roedd gigs yn gyfle da i ni rannu ac ymarfer syniadau a chaneuon newydd cyn mynd ati i’w recordio. Roedd trio cael amser i recordio ‘Bywyd Gwyn’ yn waith caled, ac yn aml, roedd rhaid i ni fwcio amser stiwdio ryw benwythnos yma ac acw i ymarfer a recordio’r caneuon. Ond am y tro cyntaf ers blynyddoedd, fis Tachwedd diwethaf roedd pawb nôl adref ar yr un pryd, ac roedd hyn yn gyfnod da iawn i allu ymarfer a chreu caneuon newydd, ac o hyn, daeth yr albwm newydd – Fel Tôn Gron.”
Dychwelyd i’r Copa
Ddiwedd 2014 mi wnaeth y grŵp ryddhau sengl ‘ddwbl A’ ar label Sbrigyn-Ymborth, sef ‘Mari Sâl/Tafod y Tonnau’. Roedd hi’n bach o syndod i rai efallai i’w gweld felly’n troi nôl at is-label Sain, Copa, a ryddhaodd eu dau albwm cyntaf, ar gyfer ryddhau’r trydydd.
“Contract ar gyfer dau albwm oedd gennym ni’n wreiddiol efo Copa / Sain, felly ar ôl rhyddhau Bywyd Gwyn roedd y contract hwnnw wedi dod i ben. Mi wnaethon ni recordio ‘Mari Sâl / Tafod y Tonnau’ yn 2014 ac mi wnaeth Sbrigyn Ymborth ryddhau’r sengl ac mi weithiodd hynny’n dda i ni. Yn stiwdio Sain ddaru ni recordio Fel Tôn Gron Tachwedd diwethaf ac mi wnaeth Copa gynnig rhyddhau’r albwm i ni.”
Yn stiwdio Sain yn Llandwrog y recordiwyd yr albwm newydd felly, ond mae’r grŵp wedi cadw’r gwaith cynhyrchu’n in-house, gyda’r drymiwr, Robin Jones, yn gyfrifol am hynny. Ac mae cadw rheolaeth dros y gwaith cynhyrchu wedi gweithi’n ôl Sion.
“Roedd hi’n braf gallu cael mwy o reolaeth dros y gwaith recordio, a chymryd amser i ddarganfod y sŵn cywir. Fe ddaeth rhan helaeth o’r caneuon at ei gilydd yn y pythefnos cyn mynd mewn i’r stiwdio. Am y tro cyntaf, fe gawsom ni gyfnod penodol i ysgrifennu caneuon – syniad grêt jyst cyn recordio, oherwydd roedd y caneuon yn hollol ffres a ninnau’n frwdfrydig amdanynt.”
Er bod y grŵp dair blynedd yn hŷn erbyn hyn, a’r aelodau wedi aeddfedu dros y cyfnod hwnnw, does dim gormod o newid i naws eu caneuon yn ôl Sion Owens.
“Y bwriad ers y cychwyn oedd creu caneuon bachog, a pheidio cymryd ein hunan ormod o ddifrif, ac nid yw’r albwm yma’n wahanol o ran hynny. Ar y llaw arall, mae ychydig o amrywiaeth fel y gân ‘Dal i Ddysgu’ sy’n fwy trwm ’na chaneuon eraill, tra bod ‘Dŵr, Tân, Cân’ yn un fwy chilled ac yn rhywbeth hollol newydd i ni. ‘Da ni’n gobeithio bod y cyffro sy’n y ddau albwm blaenorol a’n perfformiadau byw yn parhau’n amlwg ar Fel Tôn Gron. Does ’na ddim un gân ar yr albwm yma wedi cael ei rhyddhau o’r blaen felly mae o’n gyfle i rywun wrando ar gasgliad hollol newydd.”
Amrywio
Mae’r aelodau i gyd wedi bod yn brysur gyda phrosiectau cerddorol amgen dros y tair blynedd diwethaf hefyd – Sion gydag Uumar, Robin gyda Bwncath a Gwilym hefyd gyda Bwncath a Plu wrth gwrs. Ond ydy hynny wedi cael effaith negyddol ar Y Bandana, neu ydy’r amrywiaeth yn beth da?
“Un o’r prif resymau i weithio ar brosiectau eraill ydi gallu arbrofi â chaneuon sydd ddim o’r rheidrwydd yn gweithio gyda’r Bandana” eglura Sion.
“Mae’n eithaf hawdd medru gwahaniaethu pa gân sy’n addas i’r bandiau gwahanol, ond wedi dweud hynny, yn sicr mae rhai elfennau o’r bandiau eraill yn medru dylanwadu rhai caneuon – megis yr awyrgylch eithaf gwerinol yn ‘Cyn I’r Lle ‘Ma Gau’ ac yna’r caneuon mwy trwm fel ‘Diwedd Y Gân’.”
Er gwaetha’r diffyg cynnyrch stiwdio dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Bandana wedi parhau i gigio’n rheolaidd. Ar ôl cwpl o gigs lansio ddiwedd mis Mawrth, fyddan nhw ddim yn gorffwys ar ei rhwyfau gyda llwyth o gyfleoedd i’w gweld nhw’n fyw dros y misoedd nesaf.
“Mae ’na lot o gigs ar y gweill mewn llawer o lefydd gwahanol – sy’n grêt, felly cadwch lygaid allan ar ein tudalennau Facebook a Twitter! Y bwriad ydi teithio’r albwm cymaint â phosib fel bod y caneuon yn cael eu clywed ar draws Cymru. Rydan ni wastad wedi mynd ati i drefnu rhyw fath o daith haf, a’r gobaith ydi gwneud yr un peth eto eleni felly edrych ymlaen!”
Geiriau: Owain Schiavone