Cyhoeddi amserlen Gŵyl Sŵn

Mae Gŵyl Sŵn, yr ŵyl gerddoraeth flynyddol sy’n cael ei chynnal mewn amryw lleoliadau ledled dinas Caerdydd, wedi cyhoeddi amserlen lawn yr ŵyl eleni.

Bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr Y Selar yn gwybod mai syniad y cyflwynydd radio, a boi gwych cyffredinol, Huw Stephens ydy Gŵyl Sŵn sy’n cael ei drefnu ganddo ar y cyd â’r hyrwyddwr John Rostron.

Mae’r ŵyl yn dathlu pen-blwydd yn ddeg oed eleni, ac yn dechrau nos Wener nesaf, 21 Hydref.

Os ydy’n syms ni’n iawn, mae’r ŵyl yn defnyddio 11 o leoliadau gwahanol, gyda cherddoriaeth o hanner dydd nes un y bore ddydd Sadwrn a Sul gyda gig agoriadol yn The Tramshed nos Wener.

Mae ‘na lwyth o gerddoriaeth amrywiol ar yr arlwy eleni eto, a nifer o artistiaid Cymraeg yn eu mysg. Dyma rai setiau penodol sydd wedi dal llygad Y Selar…

Gwener, 22:30 yn The Tramshed – Meilyr Jones

Sadwrn, 17:30 yn Undertone – Tigana

Sadwrn, 19:45 yn The Big Top – Alun Gaffey

Sadwrn, 20:45 yn Clwb Ifor Bach – Casi

Sadwrn, 21:15 yn The Big Top – Melys

Sadwrn, 22:45 yn Buffalo – Cate le Bon

Sul, 20:00 yn Four Bars – The Gentle Good

Mae’r amserlen lawn ar gael i’w lawr lwytho nawr – gwnewch hynny ac argraffu copi os ydach chi’n mynd i gael dechrau cynllunio da chi!